Mae Gary Speed, rheolwr Cymru, wedi cyhoeddi ei garfan ar gyfer y gemau rhagarweiniol Pencampwriaeth Ewrop yn erbyn Montenegro a Lloegr.

Mae’r gêm yn erbyn Montenegro yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Gwener, 2 Medi, tra bod yr ornest gyda Lloegr yn Wembley ar ddydd Mawrth, 6 Medi.

Mae Speed wedi penderfynu rhoi lle i James Collins yn ei garfan ar gyfer y ddwy gêm, er fod yr amddiffynnwr o Aston Villa wedi ei wahardd rhag chwarae yn y gêm gyntaf yn erbyn Montenegro.

Mae Craig Bellamy, Gareth Bale ac Aaron Ramsey oll yn hollach ac wedi eu cynnwys hefyd.

Does dim gobaith gan Gymru gael dyrchafiad o gymal grŵp y bencampwriaeth Ewropeaidd erbyn hyn, ond mae Cymru am brofi fod gwell i ddod gan y tîm yn y dyfodol.

Mae safle Cymru ar restr ddetholion Fifa wedi llithro ymhellach fyth i’r 117eg safle erbyn hyn, wedi iddynt golli pedwar allan o’r pum gêm y maen nhw wedi eu chwarae ers i Gary Speed gymryd y llyw.

Maent ar waelod grŵp rhagarweiniol G yn y pencampwriaethau Ewropeaidd heb yr un pwynt o gwbl. Dyma’r tro cyntaf iddynt golli eu pedwar gêm gyntaf mewn grŵp ers ymgyrch Cwpan y Byd 1968-69.

Yn ôl y rhestr ddetholion diweddaraf, mae tîm Gary Speed bellach yn is na Azerbaijan, Guatemala, Guyana, Korea DPR a Haiti.

Disgynnodd Cymru yn is na’r Ynysoedd Faroe ym mis Gorffennaf, ac o ganlyniad roeddynt ymysg y chweched pot o ddetholion ar gyfer dewis grwpiau rhagarweiniol Cwpan y Byd Brasil yn 2014.

Fe fydd hi’n dipyn o her i Gymru gael dyrchafiad o’r grŵp y maen nhw wedi ei ddewis ynddo. Mae’n cynnwys Croatia, Serbia, Gwlad Belg, Yr Alban a Macedonia (sydd bellach yn cael eu rheoli gan gyn-reolwr Cymru, John Toshack).

Cyn y gêm gyfeillgar ddiweddaraf yn erbyn Awstralia, heriodd Robert Earnshaw ei gyd-aelodau yn y garfan i ddangos fod Cymru yn well nag oedd y rhestr detholion yn ei awgrymu. Ond collwyd y gêm gartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd 1-2.

Amser i Speed

Dywedodd cyn-gapten Cymru, Kevin Ratcliffe, fod rhaid rhoi rhagor o amser i Gary Speed roi ei farc ei hun ar y tîm.

“Mae’n mynd i gael mwy o amser i wneud gwahaniaeth na rheolwyr yn y gorffennol,” medd Ratcliffe.

“Fe fydd angen amser arno. Bydd rhaid bod yn amyneddgar gyda Gary. Rydym ni’n gwybod beth yw maint y dasg sydd o’i flaen, a’r holl chwaraewyr dibrofiad sydd rhaid delio â nhw.”

Dyma’r garfan:

Wayne Hennessey (Wolverhampton Wanderers)

Boaz Myhill (West Bromwich Albion – ar fenthyg gyda Birmingham)
Darcy Blake (Caerdydd)
Danny Collins (Stoke)
James Collins (Aston Villa)
Neal Eardley (Blackpool)

Danny Gabbidon (Queens Park Rangers)
Chris Gunter (Nottingham Forest)
Adam Matthews (Celtic)
Neil Taylor (Abertawe)
Ashley Williams (Abertawe)
Joe Allen (Abertawe)

Gareth Bale (Tottenham Hotspur)
Jack Collison (West Ham)
Andrew Crofts (Norwich)
Andy King (Caerlyr)
Joe Ledley (Celtic)
Aaron Ramsey (Arsenal)
Hal Robson-Kanu (Reading)
David Vaughan (Sunderland)
Craig Bellamy (Manchester City)

Simon Church (Reading)
Robert Earnshaw (Caerdydd)
Steve Morison (Norwich)

Wrth-gefn

Lewis Price (Crystal Palace)
Lewin Nyatanga (Bryste)
Ashley Richards (Abertawe)
Rhoys Wiggins (Charlton Athletic)
David Cotterill (Abertawe)
David Edwards (Wolverhampton Wanderers)
Jermaine Easter (Crystal Palace)

Ched Evans (Sheffield United)

Sam Vokes (Wolverhampton Wanderers)

Rhagor i ddod…