Steffan ap Breian
Mae cynghorydd cymuned o Bont-y-pŵl wedi ei atal rhag gwasanaethu ar reithgor ar ôl  mynnu’r hawl i siarad Cymraeg.

Ddydd Llun aeth Steffan ap Breian i Lys y Goron Casnewydd, chwe wythnos wedi iddo lenwi’r fersiwn Gymraeg o ffurflenni swyddogol oedd yn ei wneud yn gymwys i fod yno.

Wrth gyflwyno fersiwn Gymraeg o lythyr swyddogol, mae Steffan ap Breian yn dweud i swyddogion derbynfa Llys y Goron Casnewydd gymryd yn ei erbyn.

“Cyn i mi hyd yn oed agor fy ngheg a dweud unrhyw beth, wnaethon nhw edrych ar y dogfennau yn Gymraeg a dweud: ‘In Welsh?! Can’t you speak English?’” meddai’r cynghorydd cymuned Plaid Cymru.

“Doeddwn i ddim eisiau codi stŵr, ond pan ddywedon nhw: ‘Can’t you speak English?’ roedd tôn sarhaus i’r llais,” meddai’r athro Cymraeg 52 oed a fu’n disgwyl yn y cantin o 9.30 y bore hyd pedwar y pnawn.

“Yn y pen draw dyma nhw’n cymryd fi fewn o flaen y Barnwr, a oedd yn siaradwr Cymraeg.

“Dyma fe’n esbonio bod Deddf [yr Iaith Gymraeg] 1993 yn rhoi’r hawl i siarad Cymraeg os yn rhoi tystiolaeth i’r llys a phan yn tyngu llw, ond dim hawl i wrando ar dystiolaeth yn Gymraeg,” meddai Steffan ap Breian.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 25 Awst