Leanne Wood
Fe fu farw mwy na 600 o gyn-lowyr yng Nghymru cyn derbyn iawndal am gyflwr oedd yn cael ei achosi gan eu hamodau gwaith, datgelodd Aelod Cynulliad heddiw.

Mae ffigyrau am gyflwr a elwir yn ‘bys gwyn y glowyr’ (VFW) wedi eu cyhoeddi yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth gan Leanne Wood.

Datblygodd nifer o weithwyr y pyllau glo wedi datblygu’r cyflwr am eu bod nhw’n gwneud llawer o ddefnydd o daclau pŵer.

Roedd hynny’n arwain at lai o waed yn llifo i’r bysedd ac yn achosi iddynt droi’n wyn a chrynu.

Mae’r ffigyrau a ryddhawyd gan Adran Egni a Newid Hinsawdd Llywodraeth San Steffan yn dangos fod 645 o lowyr wedi marw cyn derbyn iawndal.

Dywedodd yr AC nad oedd yn deg fod rhai o weithwyr y pyllau glo wedi gorfod disgwyl cyhyd cyn cael yr arian gan y llywodraeth.

“Mae’r dadlau cyfreithiol, a llusgo traed yn golygu nad oedd nifer o gyn-lowyr wedi cael y boddhad o dderbyn iawndal cyn marw,” meddai.


Bys gwyn
“Maen nhw wedi eu trin yn annheg gan y broses o gael iawndal. Mewn sawl achos roedd yr iawndal yn fawr ac fe allai fod wedi gwneud gwahaniaeth i’w bywydau.

“Fe fyddai wedi bod yn braf iddynt wybod fod eu teuluoedd yn gyffyrddus yn ariannol ar ôl eu marwolaethau.”

Mae’r ffigyrau yn datgelu fod dioddefwyr yng Nghwm Cynon wedi derbyn £22 miliwn mewn iawndal, dioddefwyr Merthyr Tudful a Rhymni wedi derbyn £19.9 miliwn, a dioddefwyr Blaenau Gwent wedi derbyn £18.8 miliwn.

Dywedodd yr Adran Egni a Newid Hinsawdd fod “tua 760,000 o bobol wedi gwneud cais am iawndal yn rhan o’r cynllun”.

“Yng Nghymru ar ei ben ei hun derbyniwyd 20,990 cais am iawndal ac mae £188,191,774.41 wedi ei dalu.”