Jerzy Dubiniec
Mae dyn 25 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio yn dilyn marwolaeth dyn 60 oed o Wlad Pwyl yng Nghasnewydd dydd Sadwrn.

Daethpwyd o hyd i Jerzy Dubiniec ar Broad Street, y Pîl, yn oriau man y bore ar 20 Awst.

Roedd wedi bod yn bobydd ers 40 mlynedd yng Ngwlad Pwyl ac yn ymweld â Chasnewydd er mwyn “rhannu ei wybodaeth a’i sgiliau”, meddai ei deulu.

Mewn datganiad wedi ei gyhoeddi gan Heddlu Gwent dywedodd ei fab fod “ei wraig, ei blant a’i wyrion yn addoli” Jerzy Dubiniec.

“Fe fyddwn nhw’n gweld ei eisiau.”

Diolchodd i heddlu Casnewydd am eu gwaith caled wrth ymchwilio i’w lofruddiaeth.

Bydd y dyn sydd wedi ei gyhuddo yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerffili’r bore ma.

Mae dynes 21 oed a dyn 22 oed oedd wedi eu harestio ar amheuaeth o yrru yn ddi-hid a methu ag atal ar ôl damwain wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Mae dyn 19 oed a dynes 23 oed oedd wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio hefyd wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Mae dynes 23 oed oedd wedi ei harestio ar amheuaeth o lofruddio wedi ei rhyddhau a dyw’r heddlu ddim yn bwriadu gweithredu ymhellach yn ei hachos hi.

Mae pedwar person arall (dau ddyn, 22 a 44 oed, a dwy ddynes 18 a 46 oed) gafodd eu harestio ar amheuaeth o yrru yn ddi-hid a methu a rhoi gwybod ar ôl gwrthdrawiad car wedi eu ryddhau ar fechnïaeth wrth i’r heddlu ymchwilio.