Mae Cyngor Abertawe wedi datgelu fod tân losgodd am dros dair wythnos mewn ffatri yn y ddinas wedi costio mwy na £1.5m.

Roedd tua 5,000 tunnell o deiars wedi eu stori yn y ffatri Mettoys aeth ar dân a dywedodd cyngor Abertawe maen nhw fydd yn gorfod ysgwyddo rhan helaeth o’r baich.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor fod rhywfaint o arian gan Lywodraeth y Cynulliad ar gael ond ei fod yn debygol y bydd rhaid i’r cyngor dalu tua £1m.

Bu’n rhaid chwalu’r ffatri yn Fforest-fach fel bod y gwasanaeth tân yn gallu symud y deunydd llosgedig oddi yno a’i drochi mewn tanciau dwr.

Mae’r heddlu a’r gwasanaeth tân yn parhau i ymchwilio i beth achosodd y tân.

“Y tân ddechreuodd ar 16 Mehefin oedd y cyntaf o’i fath yng Nghymru a bu’n rhaid i’r cyngor a chyrff statudol eraill ymyrryd,” medda’r cyngor.

“Er bod y tân wedi digwydd ar dir preifat doedd gan y cyngor ddim, dewis ond ymyrryd o ystyried y gost bersonol ac amgylcheddol.

“Rydyn ni’n cymryd camau er mwyn casglu tâl gan y preswylydd ond mae’n debygol y bydd yna gost fawr i’r cyngor.”