Mae heddlu arfog wedi arestio dyn 26 oed yn Wrecsam dan amheuaeth o fygwth eraill â chyllell.

Roedd yr heddlu yn bresennol yn ardal Hightown am sawl awr ac fe gafodd tân ei ddiffodd.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru wybod am 6.22pm fod dyn â chyllell yn yr ardal.

Aethpwyd a’r dyn i Ysbyty Maelor Wrecsam cyn cael ei gadw yn y ddalfa.