Mae’r heddlu wedi cael rhagor o amser er mwyn holi dau ddyn sydd dan amheuaeth o lofruddio dyn 60 oed yng Nghasnewydd.
Daethpwyd o hyd i gorff y dyn yn Broad Street, y Pîl, ddydd Sadwrn diwethaf. Cred yr heddlu yw bod rhywun wedi ymosod arno a’i redeg drosodd yn y stryd.
Aethpwyd a dyn 25 oed a dynes 23 oed i’r ddalfa ychydig oriau yn ddiweddarach.
Heddiw cafodd swyddogion ychydig rhagor o amser i holi’r ddau.
Galwodd y Ditectif Uwch-arolygydd, Paul Griffiths, sy’n arwain yr ymchwiliad, ar y cyhoedd i gysylltu â gwybodaeth.
Dywedodd ei fod yn hanfodol fod unrhyw un oedd yn gyrru yn ardal Broad Street rhwng 2am a 4am ddydd Sadwrn yn cysylltu â swyddogion.
Mae dyn 19 oed, gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiom wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae pedwar arall – dau ddyn 22 a 44 oed, a dwy ddynes 18 a 46 oed – hefyd wedi eu cyhoeddi ar fechnïaeth.
Cafodd y ddau eu harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru yn ddi-hid ac am fethu a rhoi gwybod ar ôl gwrthdrawiad ar y ffordd.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 01633 838111.