Llyn Padarn
Aethpwyd a dyn i’r ysbyty ddoe ar ôl iddo fynd i drafferthion wrth gaiacio yn Llyn Padarn.
Daethpwyd o hyd i’r dyn oedd wedi dioddef o anafiadau i’w wddf a’i gefn yn arnofio yn y dŵr yn y llyn ger Llanberis.
Galwyd y gwasanaethau brys, gan gynnwys hofrennydd y Llu Awyr Prydeinig o’r Fali ar Ynys Môn.
Does dim manylion ynglŷn â sut yr oedd wedi ei anafu. Roedd yn ymwybodol pan gafodd ei dynnu o’r dŵr.