Llys Ynadon Caerdydd
Fe gafodd Gorchymyn Gwahardd Brys ei ganiatáu er mwyn atal y bwyty sydd ynghanol yr achosion o’r haint e-coli yn ne-ddwyrain Cymru rhag agor eto.

Ddoe, fe aeth Cyngor Dinas Caerdydd i’r llys ynadon i ofyn am y gorchymyn yn achos yr Adonis Kebab House yn Heol y Ddinas, Caerdydd.

Fe ddywedodd adran Iechyd Amgylchedd y cyngor bod yna beryglon i iechyd y cyhoedd yn y bwyty.

Erbyn hyn mae saith o achosion o afiechyd e-coli wedi eu cadarnhau yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf ac mae pump arall yn cael eu hystyried.

Mae mwy na 40 o bobol wedi ymateb i gais am wybodaeth ar ôl bwyta yn y tŷ kebabs.