Prifysgol Aberystwyth - dim llefydd clirio am yr ail flwyddyn yn olynol
Mae prifysgolion Cymru’n disgwyl dyddiau prysur wrth i fwy nag erioed o fyfyrwyr geisio am le ar ôl eu canlyniadau Lefel ‘A’.

Prifysgol Aberystwyth yw’r unig un sydd wedi dweud yn bendant na fydd yn rhan o’r broses glirio oherwydd ei bod eisoes yn llawn.

Mae disgyblion wedi cael rhybudd i beidio â rhuthro am unrhyw le sydd ar gael, os na fyddan nhw’n cael y graddau angenrheidiol ar gyfer eu dewis cynta’.

Y disgwyl yw y bydd mwy o bobol ifanc yn ceisio bachu lle eleni, cyn i ffioedd uwch o hyd at £9,000 ddod i rym y flwyddyn nesa’.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gosod uchafswm ar nifer y llefydd yn y prifysgolion eleni – ymgais i reoli costau.

‘Gwell aros na rhuthro’

Gyda mwy na 600,000 o bobol yn gwneud cais am 350,000 o lefydd trwy wledydd Prydain, y disgwyl yw y bydd tua 47,000 yn cael llefydd trwy’r system glirio yn ystod y dyddiau nesa’.

“Fy nghyngor i yw i beidio â rhuthro os nac ydych chi’n sicr,” meddai Prif Weithredwr y corff clirio, UCAS, Mary Curnock Cook. “Os nad yw’r cwrs yn iawn, dyna’r canlyniad gwaetha’ posib.

“Mae’n benderfyniad mawr i’w wneud ac mae’n well aros a cheisio eto y flwyddyn nesa’.”