Wynford Ellis Owen
Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, sy’n dweud fod yna argyfwng yn ein cymdeithas…

Mae cydgyfeiriant pedwar argyfwng yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf – trychineb y banciau, y cyhoedd yn colli ffydd yn gyfan gwbl yn y gwleidyddion, y cyfryngau a’r heddlu ac yn awr y ffrwydrad o drais gan yr ieuenctid hynny sydd i bob pwrpas wedi’u gwahardd yn gymdeithasol, yn dangos Prydain fel na fu erioed o’r blaen, sef ein bod wedi cyrraedd cyfwng cymdeithasol a moesegol dwfn yn ein hanes cenedlaethol.

Pan fydd y Prif Weinidog, ei ddirprwy ac Arweinydd yr Wrthblaid i gyd heddiw wedi gwneud y cysylltiad rhwng llygredd pobl elitaidd Prydain a’r ysgarmes a welsom ar ein strydoedd, mae’n bosibl y gellir maddau i ni am feddwl bod hyn yn sail i optimistiaeth;  ni fydd ein gwleidyddion eto yng nghanol budd preifat sydd ar y gorau’n gwaethygu’r diwylliant hwn ac ar y gwaethaf yn ei hybu.

Gall optimistiaeth o’r fath eto gael ei gamleoli gan fod darn anferth o’r pos dros achosion yr aflonyddwch  wedi’u hanwybyddu’n gyfleus iawn, sef perthynas afresymol a chroesebol Prydain gydag alcohol a chyffuriau.

Ddoe, rhyddhawyd ffilm CCTV apocalyptaidd o siop bob peth er mwyn dal ysbeilwyr ifanc oedd wedi gwthio eu ffordd i mewn i’r siop.  Yn ddieithriad, y lle cyntaf i’r ysbeilwyr fynd ato oedd storfa’r gwirodydd, mewn gwirionedd eilbeth oedd y blwch arian.  Pam?  Sut mae’r botel litr o ddiod  gaethiwus hon yn mynnu’r raddfa hon o bŵer dros bobl ifanc yn ein cymdeithas? Pam ein bod yn gweld golygfeydd nid dim ond yn ystod terfysgoedd ond bob dydd ar brif strydoedd a chanolfannau trefi Prydain,  fel y rhai a welodd Hogarth yn y 18fed Ganrif?

Ydy hi’n bosibl bod rhywfaint o oedi cyn ymateb i’r noson gyntaf o derfysg oherwydd bod mwyafrif y bobl yn meddwl ei fod mor debyg i noson arferol mewn unrhyw un o gannoedd o’r trefi a’r dinasoedd ar draws y wlad?

Mae’r cyhuddiad o ddadfeiliad moesol cyffredinol yn un argyhoeddiadol ac mewn sawl achos yn gwbl gyfiawn. Fodd bynnag, mae’r dadfeiliad moesol sy’n ganolog i’r diwydiant alcohol a’i gysylltiad brawychus o agos i’r llywodraeth ac i lunio polisïau i bob pwrpas bron yn cael ei anwybyddu.

Pan gerddodd Cymdeithas Feddygol Prydain a phum elusen iechyd blaengar arall yng Nghymru a Lloegr i ffwrdd oddi wrth ‘Responsible Deal for Alcohol’ y llywodraeth oherwydd ei bod yn anwybyddu gwaith ymchwil ar sail tystiolaeth i bwysigrwydd strategaethau prisio’n isel, roedd yn arwyddocaol pa mor llwyddiannus oedd ei hymagwedd gwrth-reoleiddio’n debygol o fod.
Mae’r weinyddiaeth bresennol wedi bod yn hynod effeithiol wrth labelu rheoleiddio fel rhyw fath o syniad ymwthiol, gwrth gystadleuol a braidd yn Stasi-esque.  Dyma’r union weinyddiaeth fyddai’n ceisio rhoi terfyn ar Weplyfr a Thrydar yn ystod amodau terfysg.

Drwy edrych ar ystadegau’r cyfanswm o ddinistr y mae alcohol yn ei achosi mewn amgylchiadau heblaw rhai o derfysg yn unig, ni ellir osgoi’r casgliad bod y rheoliadau sy’n bodoli’n barod ar y sylwedd pwerus hwn mor ysgafn ag y gallen nhw fod.

Mae cwestiwn arall i’w ateb hefyd, un sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i drefniadau prisio, un sy’n ymestyn yn ddwfn i mewn i’n diwylliant ac sy’n agos iawn at bryderon cymdeithasol a dirfodol eraill a welwyd yn ystod y terfysgoedd.

Pam mae person yn difodi ei bersonoliaeth ei hun gydag alcohol neu gyffuriau?  Os byddwn ni’n rhagdybied bod ein cymdeithas yn debyg i ffatri creu pobl, creu gwahanol fathau o unigolion mewn gwahanol amgylchiadau, pa drefniadau yn y ffatri hon sy’n creu pobl mewn ffasiwn boen emosiynol cronig fel eu bod yn dewis peidio â bod yn nhw eu hunain ar gost eu hiechyd a’u pwyll?

Mae’n bosibl ein bod wedi cael cyfle hanesyddol i ateb y cwestiwn hwn, munud chwyldroadol lle gall ein cymdeithas symud ymlaen a gwella. Ond heblaw bod y mater o alcohol yn cael ei rhoi’n gwbl ganolog yn y drafodaeth, mae’n bosibl ei fod yn gyfle a wastraffwyd.