Sut hwyl gafodd y chwaraewyr pêl-droed Cymreig gyda’u clybiau dros y penwythnos?

Uwch Gynghrair Lloegr

Wayne Hennessey (Wolves)  Chwarae 90mun V Blackburn Dechreuodd Hennessey yn gôl i Wolves gan ildio un gôl wrth i’w dîm ennill o 3 – 1
James Collins (Aston Villa) Chwarae 90mun v Fulham Methodd gên Cymru yn erbyn Awstralia gydag anaf ond fe chwaraeodd gêm lawn i’w glwb. Gêm soled wrth iddi orffen yn ddi-sgôr.
Danny Gabbidon (OPR) Chwarae 90mun v Bolton Ei gêm gynghrair gyntaf i QPR, ond diwrnod i’w anghofio wrth i Gabbidon sgorio un i’w rwyd ei hun a QPR golli o 4-0.
Sam Ricketts (Bolton)  Wedi’i anafu v QPR  
Gareth Bale (Tottenham)  Gêm wedi’i gohirio  v  
Ashley Williams (Abertawe)  Chwarae 90 munud v  Man City Chwaraewr pwysig i Abertawe eleni ond bedydd tân yn erbyn Man City.
Neil Taylor (Abertawe)  Wedi’i wahardd v Man City  
Joe Allen (Abertawe) Eilydd – ymlaen wedi 65 munud. v Man City Ymddangosiad cameo ond cyfforddus ym medydd tân Abertawe.
David Cotterill (Abertawe)  Ddim yn y garfan v Man City  
David Cornell (Abertawe)  Ddim yn y garfan v Man City  
Danny Collins (Stoke City)  Eilydd heb ei ddefnyddio v Chelsea Mae Stoke wedi cryfhau yn yr amddiffyn a bydd rhaid i Collins ymladd am le eleni.
Craig Bellamy (Man City)  Ddim yn y garfan v Abertawe Mae’r dyfalu am ddyfodol Bellamy yn parhau.
Aaron Ramsey (Arsenal)  Chwarae 90 munud v Newcastle Gêm lawn i Ramsey ac roedd yn ganolog i bopeth da gan Arsenal.
David Edwards (Wolves) Wedi’i anafu v Blackburn Mae disgwyl i Edwards fod allan am wythnos eto gydag anaf i’w gefn.
Andrew Crofts (Norwich City) Chwarae 90 munud v Wigan Gêm lawr i Crofts ar ôl iddo fethu gêm Cymru gydag anaf yng nghanol yr wythnos.
David Vaughan (Sunderland) Eilydd – ymlaen wedi 80 munud v Lerpwl Bydd yn siomedig i beidio dechrau gêm gyntaf y tymor i’w glwb newydd, ond canlyniad da i Sunderland.
Sam Vokes (Wolves)  Ddim yn y garfan v Blackburn  
Steve Morison (Norwich City) Chwarae 75 munud v Wigan Cyfle i’r ymosodwr ddechrau gêm yn yr Uwch Gynghrair am y tro cyntaf.
Rhys Taylor (Chelsea) Ddim yn y garfan v Stoke  
Adam Henley (Blackburn Rovers) Eilydd heb ei ddefnyddio v Wolves Roedd yr cefnwr 17 oed ar y fainc wrth i’w dîm golli yn erbyn Wolves.
David Jones (Wigan)  Eilydd heb ei ddefnyddio v Norwich City Yn gymwys i chwarae i Gymru, ond heb ymrwymo eto. Mae’n werth cadw golwg arno.

 

Pencampwriaeth Lloegr

Boaz Myhill (Birmingham) Chwarae 90mun v Coventry Chwaraeodd am 90munud wrth i’w dîm ennill o gôl i ddim.
Chris Gunter (Nottm Forest ) Chwarae 90mun v Millwall Wedi methu gêm gwpan ei glwb ganol wythnos tra ar ddyletswydd â Chymru, ond yn syth nôl i’r tîm. Colli 2-0 oedd hanes Forest.
Neal Eardley ( Blackpool) v Peterborough Ddim yn y garfan wrth i’w dîm herio Peterborough ac mae si bod ffrae rhyngddo a swyddogion y clwb ynglŷn â chodiad cyflog. Mae’r rheolwr, Ian Holloway wedi gwadu hynny.
Lewin Nyatanga ( Dinas Bryste) Chwarae 90min v Caerdydd Gêm lawn yng nghanol yr amddiffyn i Nyatanga ond bydd yn siomedig o ildio tair gôl.
James Wilson ( Dinas Bryste) Chwarae 90 munud v Caerdydd Ffurfio partneriaeth Gymraeg yng Nghanol yr amddiffyn gyda Lewin Nyatanga yn erbyn tîm o Gymru. Diwrnod caled i’r ddau!
Christian Ribeiro ( Dinas Bryste)

Ddim yn y garfan v Caerdydd  
Darcy Blake (Caerdydd)

Ddim yn y garfan v Dinas Bryste  
Robert Earnshaw (Caerdydd) Chwarae 73 munud – 1 gôl v  DinasBryste Sgoriodd Earnshaw ar ôl 36 munud wrth i’w dîm ennill o 3 i 1.
John Oster (Doncaster) Chwarae 90 munud v West Ham Gêm lawn i Oster sydd ddim yng nghynlluniau Gary Speed ar hyn o bryd mae’n ymddangos.
Brian Stock (Doncaster)

Wedi’i anafu v West Ham  
Jack Collison (West Ham) Chwarae 72 munud. v Doncaster Cyfle cyntaf i weld Collison yn dechrau gêm y tymor yma ac roedd yn allweddol ym muddugoliaeth ei dîm, yn creu’r gôl fuddugol gyda chroesiad gwych.
Andy King (Caerlŷr) Eilydd – ymlaen wedi 46 munud v Reading Eilydd ar yr hanner ond methodd ag achub ei dîm wrth iddynt golli 2-0.
Jermain Easter (Crystal Palace)

Chwarae 71 munud v Burnley Dechrau’r gêm wrth i Palace ennill o 2 i 0.
 Andy Dorman (Crystal Palace)

Ddim yn y garfan v Burnley  
Lewis Price ( Crystal Palace )

Eilydd heb ei ddefnyddio v Burnley  
Simon Church ( Reading)

Wedi’i anafu v Leicester City  
Hal Robson-Kanu (Reading) Eilydd – ymlaen wedi 72 munud. 1 gôl v Leicester City Sgoriodd Robson-Kanu yn y funud olaf i selio buddugoliaeth Reading.
Ben Turner (Coventry City) Wedi’i anafu v Birmingham city  
Freddy Eastwood (Coventry)

Wedi’i anafu v Birmingham  
Ryan Williams (Portsmouth) Eilydd – ymlaen wedi 83 munud v Brighton Heb ymrwymo ei hun i Gymru eto’n anffodus, ond mae meddwl mawr ohono ymysg swyddogion Portsmouth. Ymddangosiad arall o’r fainc yn erbyn Brighton
Grant Basey (Peterborough) Chwarae 71 munud v Blackpool Dechreuodd Basey y gêm fel cefnwr chwith wrth i’w dîm golli 2-1.
Gareth Roberts (Derby County) Eilydd – ymlaen wedi 68 munud v Watford  
Rob Edwards (Barnsley) Chwarae 90 munud v Southampton Wedi tymor rhwystredig gyda Blackpool, mae Edwards yn ennill ei le yn nhîm Barnsley, er mwi colli 1-0 oedd eu hanes.
Craig Davies ( Barnsley) Chwarae 90 munud v Southampton Mae’r ymosodwr bellach yn chwarae i’w ddeuddegfed clwb ac yntau ond yn 25 oed! Wedi dechrau pob gêm i’w glwb eleni hyd yn hyn – tybed ai Barnsley fydd y lle iddo gyflawni ei botensial?

 

Yr Alban

       
Adam Matthews (Celtic) Eilydd heb ei ddefnyddio v Dundee Utd  
Joe Ledley (Celtic) Chwarae 90 munud – 1 gôl. v Dundee Utd Gêm lawn i Ledley a gôl ar ôl 71 munud wrth i’w dîm chwalu Dundee Utd.
David Stephens (Hibernian)  Chwarae 90 munud v Kilmarnock Nid gêm orau’r amddiffynnwr mawr wrth i’w dîm golli o 4 i 1.
Kyle Letheren (Kilmarnock) Ddim yn y garfan v Hibernian  
Jason Brown (Aberdeen ) Eilydd heb ei ddefnyddio v Hearts  
Owain Tudur Jones (Inverness) Chwarae 65 munud v Rangers Colli o 2-0 wnaeth Inverness ond mae Owain Tudur i’w weld yn ffeindio’i draed yn yr Alban.

 

Arall

Troy Brown (Rotherham United)

Eilydd heb ei ddefnyddio v Plymouth  
Jake Taylor (Aldershot) Eilydd – ymlaen wedi 77 munud v Northampton  

 

Billy Bodin (Swindon Town) Chwarae 90 munud v Cheltenham Gêm lawn arall i’r ymosodwr ifanc.
Rhoys Wiggins (Charlton) Chwarae 90 munud v Notts County Mae’r amddiffynnwr 24 oed yn dechrau dod yn ffigwr allweddol mewn tîm Charlton sydd wedi cael dechrau da iawn i’r tymor.