Mae prisiau tai yng Nghymru wedi cynyddu eto, er gwaethaf cwymp mewn prisiau tai ar draws y rhan fwyaf o Loegr.

Mae prisiau tai yn Lloegr wedi disgyn am yr ail fis yn olynol ac maen nhw bellach yn is nag oedden nhw flwyddyn yn ôl, meddai adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.

Syrthiodd pris cyfartalog cartref yng Nghymru a Lloegr 2.1% ym mis Awst, i £231,543 yn ôl gwefan eiddo Rightmove. Daw hynny ar ôl cwymp 1.6% ym mhrisiau tai ym mis Gorffennaf.

Ond cynyddodd prisiau tai 0.8% yng Nghymru ym mis Awst, ac maen nhw bellach 1.1% yn uwch nag oedden nhw flwyddyn yn ôl. Mae hynny’n gynnydd o £170,405 fis diwethaf, i £171,744 fis yma.

£169,909 oedd pris cyfartalog tŷ yng Nghymru flwyddyn yn ôl, ar 10 Awst 2010.

Swydd Efrog a Humberside oedd yr unig ran o Loegr a welodd gynnydd mewn prisiau tai ym mis Awst. Ond mae prisiau yno wedi syrthio -1.7% dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae’r farchnad dai mewn lle rhyfedd iawn,” meddai cyfarwyddwr Rightmove, Miles Shipside.

“Mae’r ychydig dai sydd yn cael eu gwerthu wedi eu rhoi ar y farchnad gan bobol sy’n fodlon cael gwared ohonyn nhw am bris llawer is na’r cyfartaledd.”

Ond ychwanegodd mai dim ond 4.1% yn is ar gyfartaledd yw prisiau tai ar draws Cymru a Lloegr, nag oedden nhw ar ddechrau’r argyfwng ariannol yn 2008.

Roedd hynny’n dangos mor sefydlog oedd y farchnad yn ei hanfod, meddai.

Llundain

Llundain welodd y cwymp mwyaf mewn prisiau tai ym mis Awst, sef cwymp o 3.4%.

Mae prisiau tai ar draws Cymru a Lloegr 0.3% yn is nag oedden nhw flwyddyn yn ôl, y cwymp blynyddol cyntaf ers mis Medi 2009.

Dywedodd Miles Shipside fod y trafferthion newydd yn y marchnadoedd stoc fyd-eang wedi dechrau taro Llundain, oedd wedi ei ynysu i ryw raddau gan y cwymp ym mhrisiau tai cyn hyn.

“Mae marchnad dai Llundain wedi syrthio’n ôl yn ystod yr haf, wrth i brisiau oedd wedi bod yn codi’r araf bach ddisgyn yn gynt na mewn rhannau eraill o’r wlad,” meddai Miles Shipside.