Coedwig
Gallai gweithio mewn coetiroedd yn ne Cymru gynnig llwybr yn ôl i fyd gwaith i bobol sy’n methu dod o hyd i job. Ar ben hynny, gallai’r amgylchedd fod ar ei ennill hefyd.

Bydd gwirfoddolwyr yn cyflawni dewis o ddyletswyddau fel gwella mynedfeydd i goedwigoedd, rheoli cynefinoedd ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, tynnu coed conwydd sy’n atgynhyrchu oddi ar rostiroedd a chlirio llystyfiant sy’n gordyfu o amgylch Henebion Cofrestredig.

Byddant hefyd yn mynd i’r afael â gwaith traenio ar lwybrau cerdded yng nghoetiroedd Llywodraeth Cymru a chael cyfle i droi eu llaw at godi waliau sychion.

Gobeithir y bydd y profiad y byddant yn ei ennill wrth wneud y tasgau o dan oruchwyliaeth staff CC Cymru yn rhoi mantais hanfodol i’r gwirfoddolwyr wrth iddynt geisio mynd yn ôl i fyd gwaith.

“Mae’r sector coedwigaeth yn tyfu ac yn cyflogi miloedd o bobl yng Nghymru ac yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd am yrfaoedd ar draws dewis eang o broffesiynau,” meddai Mike James, rhodiwr cymunedol CC Cymru.

“Rydym am annog defnyddio ein coetiroedd at ddibenion hyfforddi fel y gallant helpu pobl i ennill y sgiliau mae arnynt angen i wella’u rhagolygon yn y farchnad swyddi.”

Dyma’r ail flwyddyn i CC Cymru ddyfarnu contract i BTCV o Gaerdydd i gynorthwyo i reoli cynefinoedd a gwneud gwelliannau amgylcheddol yn ardaloedd cynghorau bwrdeistrefi sirol Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr.

Cyfeirir pobl at BTCV ar ôl bod yn hawlio budd-daliadau am gyfnod o amser a chânt gynnig y cyfle i ailadeiladu eu hyder a’u hunan-barch a bod yn rhan o’u cymuned waith eu hunain unwaith eto.