Mae Heddlu De Cymru wedi rhybuddio y byddan nhw’n cadw llygad manwl ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol i chwilio am bobol sy’n annog terfysgu.

“Mae Heddlu De Cymru’n parhau i fonitro safleoedd rhwydweithio cymdeithasol a bydd unrhywun sy’n eu defnyddio i geisio creu anhrefn neu droseddu yn cael eu holrhain a’u trin wedyn,” meddai’r Ditectif Brif Arolygwr, Andy Davies.

Fe ddaeth y datganiad ar ôl i ddau ddyn o Gaerdydd gael eu cadw yn y ddalfa ar gyhuddiadau’n ymwneud â’r terfysgu yn ninasoedd Lloegr.

Fe gawson nhw eu cyhuddo o ddefnyddio gwefannau rhwydweithio i annog anhrefn treisiol ar ôl cael eu harestio ddydd Mercher.

Fe ymddangosodd y ddau, sy’n 23 a 24 oed ac yn dod o ardal y Rhath, o flaen ynadon Caerdydd ddoe ac fe gawson nhw’u cad wyn y ddalfa.

Fe fydd y gwrandawiad nesa’ yn Llys y Goron Caerdydd ymhen wythnos.