Peint
Bydd mwy o Gymry ifanc yn diodde’ o ddryswch meddwl yn y dyfodol, oherwydd eu bod nhw’n gor-yfed.

Dyna rybudd un sy’n gweithio i’r Gymdeithas Alzheimer yn y De, yn helpu pobol sy’n diodde’ o’r clefyd.

“Oherwydd y ffordd yr ’yn ni’n byw – y gymdeithas sydd yn bod heddi sy’n golygu lot o fynd i’r dafarn, cymdeithasu, yfed – dw i’n teimlo y gallen ni weld lot o bobol ifancach mewn deg i ugain mlynedd gyda Korsakoff Dementia – dementia o ganlyniad i yfed,” meddai Trudy Rowlands.

Nod yr elusen yw tynnu sylw at y cyflwr a chael y cyhoedd i’w weld yn yr un ffordd ag afiechydon difrifol eraill.

“Ni eisiau iddo fe fod yn fwy amlwg yn y Wasg a’r cyfryngau, fel mae canser,” meddai Trudy Rowlands.“Mae pobol yn gwybod beth yw canser, mae e yn cael ei dderbyn.

“Ni eisiau gwthio hyn –  fel bod Alzheimers yn cael ei weld fel salwch, achos dyna beth yw e, salwch lle does yna ddim gwellhad. Ond dyw pobl ddim yn ei weld e fel salwch, fel maen nhw gyda chanser neu glefyd y galon.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 11 Awst