Jonathan Edwards
Mae Plaid Cymru wedi dweud fod y rhagolwg am dwf economaidd is na’r disgyl ym Mhrydain yn dangos yr angen am drosglwyddo pwerau economaidd i Lywodreath Cymru.
Dywedodd yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards AS y dylid trosglwyddo pwerau ariannol i Gymru rhag blaen, wedi i Fanc Lloegr ostwng rhagolygon twf economaidd Prydain ar gyfer 2011.
Dadl yr AS, sy’n lefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, yw y byddai yn caniatau i Lywodraeth Cymru weithredu er lles Cymru yn hytrach na dibynnu ar Lundain i wneud penderfyniadau.
Fe fyddai’r pwerau economaidd yn caniatáu i’r llywodraeth ostwng y dreth gorfforaeth yng Nghymru, buddsoddi mewn seilwaith a swyddi a thorri Treth ar Werth dros dro i hybu’r economi.
“O ganlyniad i bolisiau Llywodraeth San Steffan, torrwyd rhagolygon twf economaidd Prydain eto fyth, gyda’r disgwyl i dwf am 2011 yn awr fod bron hanner yr hyn y proffwydwyd fyddai yr adeg hon llynedd,” meddai.
“Gan y dywed yr holl ddangosyddion fod Cymru yn adfer yn arafach na de-ddwyrain Lloegr, mae’n hanfodol i gomisiwn Calman Cymru, a fydd yn edrych i mewn i bwerau ariannol a democratiaeth Gymreig, wneud ei waith yn fuan ac yn brydlon.
“Yr oedd digwyddiadau 2008, pan gychwynnodd yr argyfwng economaidd hwn, yn cadarnhau ein cred nad oedd gan Lywodraeth Cymru ddigon o bwerau i wneud gwir wahaniaeth i economi Cymru.”
Syniadau
Dywedodd fod Plaid Cymru wedi gosod allan gyfres o syniadau ar gyfer Cymru a fydd yn hybu twf economaidd.
“Mae arnom angen pwerau dros dreth gorfforaeth yng Nghymru, fel y gallwn roi mantais economaidd i’n cwmniau yn y farchnad,” meddai.
“Dylem allu benthyca arian i fuddsoddi yn ein seilwaith, megis ysbytai ac ysgolion, a chreu swyddi adeiladu – cynllun Adeiladu i Gymru y Blaid.
“Yn San Steffan, rydym wedi awgrymu toriad dros dro mewn TAW, i’r 17.5% yr oedd llynedd, fyddai yn rhoi hwb i’r economi yma, y funud hon, yn ogystal a helpu teuluoedd sydd dan bwysau.
“Mae George Osborne, Canghellor Llywodraeth San Steffan, wedi methu a gosod Cynllun B os bydd ei doriadau llym yn methu, fel yr awgryma’r ffigyrau hyn yn gryf iawn.
“Dyw rhoi eich holl wyau mewn un fasged, fel y gwnaeth Prydain gyda’r sector ariannol, fyth yn gynllun da, ac yr wyf yn gobeithio y bydd yn syrthio ar ei fai yn sydyn ac yn cynnig cynlluniau eraill ar gyfer twf.”