Mae’n bosib fod gweithwyr cynnal a chadw wedi dod i gysylltiad ag asbestos yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod nhw’n ceisio dod i gyswllt â pobol sydd wedi bod yn gweithio yn adrannau peirianneg yr ysbyty.

Mynnodd y bwrdd iechyd nad oedd asbestos wedi mynd i fannau cyhoeddus a bod cleifion ac ymwelwyr yn saff.

Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn cynnal ymchwiliad i “reoli asbestos” rhwng 2004 a 2009 – cyn i’r bwrdd iechyd presennol gael ei ffurfio.

“Mae’r ymchwiliad yn edrych ar sawl mater yn ymwneud â rheoli asbestos a mynediad ar gyfer gweithwyr a chontractwyr yn ystod y cyfnod yma,” meddai llefarydd ar ran y bwrdd iechyd.

“Fe alla’i gadarnhau fod asbestos wedi ei ddarganfod yn adrannau peirianneg yr ysbyty. Dim ond pobol oedd yn gweithio o fewn yr adran Eiddo neu gontractwyr oedd wedi cael mynediad at yr adrannau yma sydd wedi eu heffeithio.”

Ychwanegodd y llefarydd fod mesurau ar waith er mwyn sicrhau fod asbestos yn cael ei reoli’n iawn, a’i fod yn flin ganddyn nhw fod gweithwyr wedi  dod i gysylltiad ag ef.

“Hoffwn gynnig sicrwydd nad oedd asbestos yn yr adrannau yr oedd cleifion ac ymwelwyr yn gallu cael mynediad atyn nhw,” meddai.

“Dim ond grŵp bychan o weithwyr sydd wedi eu heffeithio, ond os ydi rhywun yn pryderu fe ddylen nhw gysylltu â’r bwrdd iechyd.

“Fe fyddwn ni’n parhau i gynnig cefnogaeth a chyngor i’r rheini sydd â phryderon.”