Mae’r Gynghrair Pêl-droed wedi dweud y bydd Clwb Wrecsam yn rhydd i chwarae eu gêm gyntaf y tymor yma yng nghynghrair y Blue Square Bet ar Ddydd Sadwrn.

Roedd y gynghrair wedi dweud y byddai’r clwb yn gorfod bodloni nifer o feini prawf cyn iddynt gael parhau i gystadlu.

Ond roedd y clwb oddeutu £100,000 yn brin o’r £250,000 gofynnol pan basiodd y terfyn amser i dalu’r arian am 5pm ddydd Llun.

Gofynnodd Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr ar ddilynwyr Wrecsam i gyfrannu at yr achos a llwyddwyd i godi’r arian ychwanegol o fewn saith awr ddoe.

Dywedodd penaethiaid y gynghrair fod cefnogwyr Wrecsam “wedi gwneud llawer iawn mwy na’r hyn oedd i’w ddisgwyl ganddyn nhw”.

Fe aeth un cefnogwr cyn belled a chynnig gwerthu ei gartref i’r clwb er mwyn sicrhau eu dyfodol.

“Mae’n braf gweld fod holl gyflogau staff a chwaraewyr y clwb; arian credydwyr, a’r dyledion wedi cael eu talu,” meddai’r Gynghrair Pêl-droed.

“Rydym ni’n ymwybodol o’r holl waith caled a’r ymdrech sydd wedi cael ei wneud gan nifer fawr o bobl o fewn y clwb i gyrraedd y pwynt yma.

“Wnawn ni ddim enwi unigolion, ond fe hoffwn longyfarch a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu ym mha bynnag ffordd bosib.”

Mae disgwyl i’r Dreigiau gychwyn eu hymgyrch yn y gynghrair ar Ddydd Sadwrn yn eu gêm gartref gyntaf yn erbyn Caergrawnt.