Dafydd Wigley
Mae’r Arglwydd Wigley wedi rhybuddio y gallai ail siambr etholedig arwain at yr un fath o wrthdaro gwleidyddol ag y gwelwyd yn yr Unol Daleithiau yn ddiweddar.

Dywedodd nad oedd Plaid Cymru yn credu fod angen Tŷ’r Arglwyddi o gwbl, ac y byddai Tŷ’r Cyffredin yn gallu gweithredu hebddo.

Yn yr Unol Daleithiau roedd trafferthion mawr wrth ddod i gyfaddawd ar gytundeb i dalu dyledion y wlad oherwydd bod pleidiau gwahanol yn rheoli’r Senedd a Thŷ’r Cynrychiolwyr.

Os oes etholiadau ar wahân i Dy’r Arglwyddi, o bosib dan system cynrychiolaeth gyfrannol, fe allai’r un peth ddigwydd yn San Steffan, meddai Dafydd Wigley.

Daw ei sylwadau yn dilyn cyhoeddi mesur ar ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi gan Lywodraeth y Glymblaid yn San Steffan.

“Mae’r Mesur yn cosi sawl cwestiwn, gan gynnwys a oes angen ail siambr o gwbl,” meddai wrth bapur newydd y Western Mail.

“Barn Plaid Cymru yw nad oes angen un. Mae rhai gwledydd, gan gynnwys Seland Newydd, wedi goroesi heb fod angen un.

“Os oes yna ail siambr mae angen ystyried beth yw’r system etholiadol orau. Does dim amheuaeth y bydd yn gyfrannol,” meddai.

“Os felly mae’n debygol iawn y bydd canlyniad gwahanol i’r etholiadau yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Bydd Tŷ’r Cyffredin yn cael ei ethol dan system gyntaf heibio’r postyn, tra bod yr Arglwyddi yn cael eu hethol drwy gynrychiolaeth gyfrannol.

“Fe allai hyn arwain yn hawdd at un siambr eisiau pleidleisio un ffordd a’r llall eisiau pleidleisio’r ffordd arall.

“Os nad ydyn ni’n ofalus fe allen ni gael ein hunain yn yr un twll a’r Unol Daleithiau, lle mae’r Democratiaid yn rheoli’r Senedd a’r Gweriniaethwyr yn rheoli Tŷ’r Cynrychiolwyr.

“Rydyn ni wedi gweld fod hynny’n creu problemau wrth fynd i’r afael â’r diffyg ariannol.”