Jeremy Hunt
Mae 11 cymuned yng Nghymru am gael y cyfle i gynnal gwasanaethau teledu lleol.

Bydd Caerdydd, Pen y Bont ar Ogwr a Casnewydd, yr Wyddgrug, Dinbych a Rhuthun, Abertawe a Llanelli, yn ogystal â Bangor, Caerfyrddin a Hwlffordd, yn cael gwneud cais am drwydded.

Dywedodd Gweinidog y Swyddfa Gymreig, David Jones, fod y cyfle i arloesi ym maes gwasanaethau teledu lleol yn newyddion da i Gymru.

“Rydw i’n croesawu’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Diwylliant heddiw y bydd chwe thref yng Nghymru’n cael gwneud cais am drwyddedau teledu,” meddai.

“Mae’n gyfnod cyffrous iawn i ddarlledu yng Nghymru. Mae yna botensial anferth i newid y modd y mae trefi Cymru yn cael mynediad at newyddion a gwybodaeth.

“Fe fydd hefyd yn gwneud gwleidyddion yn fwy atebol.

“Rydw i’n annog cymunedau gan gynnwys Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin, Hwlffordd, yr Wyddgrug ac Abertawe i wneud cais am deledu lleol yn eu hardal nhw.”

Trwyddedau

Mae tua £40 miliwn o arian y drwydded teledu’r BBC wedi ei glustnodi at gychwyn y gorsafoedd teledu ond bydd rhaid iddyn nhw gynnal eu hunain.

Fe fydd y trwyddedau yn cael eu gwobrwyo’r flwyddyn nesaf, ar ôl ymgyrch i annog ardaloedd i wneud cais.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, mai’r nod oedd sefydlu gorsafoedd teledu lleol tebyg i’r rheini sy’n bodoli yn yr Unol Daleithiau ym Mhrydain.

“Fe fydd gwasanaethau teledu lleol yn newid sylfaenol yn sut mae pobol yn cael gwybodaeth am eu cymunedau eu hunain.

“Mae yna alw mawr am, newyddion lleol a gwybodaeth mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad.

“Rydw i eisiau i bobol allu gwylio teledu sydd wir yn berthnasol iddyn nhw, am beth sy’n digwydd lle y maen nhw’n byw ac am bethau sy’n berthnasol iddyn nhw.”