Mae dyn 29 oed yn cael ei holi ar amheuaeth o gynnu tân yn fwriadol mewn tai ym Mhontarddulais ger Abertawe.
Roedd wedi cael ei arestio ar ôl i’r tân achosi difrod sylweddol i fythynnod yn Heol Fforest – roedd wedi cynnau tuag amser cinio ddoe.
Chafodd neb ei anafu ond mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion i’r digwyddiad ac i dân arall yn Felinfoel, Llanelli.
Yno, fe gafodd y tân ei gynnau tua 7.30 y bore gan achosi difrod mawr i’r tŷ yn ardal Danybanc.
Dyw’r heddlu ddim yn cysylltu’r ddau dân.