Map yn dangos tir y cynllun uwchben y dref (o erfn y cyngor)
Fe fydd cyngor un o drefi marchnad mwya’ llewyrchus Cymru’n mynd o ddrws i ddrws i holi pob un o bobol yr dre’ beth yw eu barn am gynllun dadleuol i gael archfarchnad fawr ar y cyrion.

Ymhen wythnos fe fydd y gwaith holi’n dechrau yn Llandeilo er mwyn cael ymateb i gynlluniau cwmni Sainsbury’s – ddiwedd y mis diwetha’ fe gafodd penderfyniad ar y cynllun ei ohirio.

Yn y cyfamser, mae pennaeth bragdy yn y dre’, sy’n gwerthu cwrw i’r cwmni arfarchnadoedd, wedi ailadrodd ei wrthwynebiad i’r syniad.

‘Dim angen’

Yn ôl Simon Buckley o fragdy Evan-Evans, does dim angen archfarchnad fawr; fe fyddai’n dinistrio busnesau lleol a’r cynnydd mewn traffig yn niweidio’r dre’.

Mae’n cael ei ddyfynnu yn y wasg a gan flogwyr lleol yn rhybuddio y byddai codi’r archfarchnad yn creu pedair erw o goncrit gan gynyddu’r peryg o lifogydd yn ei fragdy gerllaw.

Roedd cyfarfod cyhoeddus o dan adain cynllun Tref Trawsnewid Llandeilo wedi penderfynu’n gry’ yn erbyn yr archfarchnad  a fyddai wrth ochr ffordd osgoi’r dref.

‘Rhaid cael barn y bobol’

Ond, yn ôl un o’r cynghorwyr sir lleol, roedd yna amheuaeth faint o’r bobol hynny oedd o Landeilo ei hun.

“Fe fydd y cynllun yn cael effaith ofnadwy ar rai o fusnesau’r dre’,” meddai Ieuan Jones, “ond mae’n bwysig i ni gael gwir farn y bobol leol.”

Dyna pam yr oedd y cyngor tre’, meddai, wedi penderfynu gwneud yr holi o ddrws i ddrws. Roedd hynny’n debyg o gymryd tua 10 niwrnod ac roedd yn disgwyl i Bwyllgor Cynllunio Shir Gâr drafod y mater ym mis Hydref.