Mae dynes leol wedi ei lladd mewn gwrthdrawiad car yng Ngwynedd.
Digwyddodd y gwrthdrawiad oedd yn cynnwys car Vauxhall Corsa ar yr A499 ger Pwllheli.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i bentref Penrhos toc cyn hanner nos neithiwr.
Dim ond un car oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad tua 23.36pm.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y ddynes wedi dioddef o anafiadau difrifol ac wedi marw yn y fan a’r lle.
Maen nhw’n galw ar unrhyw un a welodd y ddamwain i’w ffonio nhw.