Gwylan (llun Trefor Meirion Jones)
Mae nifer y gwylanod yng Nghaerdydd wedi mwy na dyblu o fewn y pum mlynedd diwethaf, yn ôl adroddiad.

Mae arbenigwr ar yr adar, Peter Rock, wedi astudio Môr Hafren, Abertawe, Caerloyw, Bryste a Swindon.

Roedd ei adroddiad yn manylu ar 38 o gytrefi gwahanol ar draws de Cymru a gorllewin Lloegr.

Darganfuwyd mai poblogaeth Caerdydd, sef 6,000 o wylanod, yw’r fwyaf yn yr ardal a’i fod yn achosi problemau i drigolion yn ogystal â busnesau.

Dywedodd James Byrne o RSPB Cymru fod prifddinas Cymru wedi troi’n le “delfrydol” i’r adar dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae yna lawer iawn o fwyd a llefydd i nythu iddyn nhw yng Nghaerdydd, ac mae hynny yn eu denu nhw,” meddai.

“Mae nifer y gwylanod ar draws gweddill y Deyrnas Unedig ar drai ac felly mae’n bosib bod mwy yn mudo i Gaerdydd.”

Dywedodd adran rheoli plâu Caerdydd fod y cynnydd mawr yn nifer y gwylanod yn her fawr i fynd i’r afael ag ef.

“Mae gan rhai adeiladau, hyd yn oed rhai masnachol, ddim ffordd o gyrraedd y to sy’n golygu fod yr adar yn cael gwneud beth maen nhw moyn yno,” meddai  Clive Bryant o’r adran.

“Maen nhw’n gallu mynd yn ymosodol iawn yn yr haf pan maen nhw’n dodwy eu hwyau.”

Dywedodd RSPB a Chyngor Caerdydd eu bod nhw’n croesawu’r adroddiad ac yn gobeithio y byddai yn arf wrth ddatrys y broblem.

Mae gwylanod wedi mynd yn bla mewn rhannau eraill o Gymru hefyd.

Mae canolfan siopa The White Rose yn Rhyl wedi gosod gwifrau uwchben y maes parcio er mwyn ceisio atal 1,000 o wylanod rhag clwydo yno.

Honnodd perchennog y canolfan siopa eu bod nhw’n colli cwsmeriaid oherwydd bod y gwylanod yn gollwng eu baw ar y ceir oddi tanodd.

Y llynedd penderfynodd Prifysgol Aberystwyth osod seinyddion sy’n dynwared sŵn gwylanod mewn poen er mwyn atal gwylanod llwglyd rhag aflonyddu ar giniawyr mewn caffi cyfagos.