Mochyn Daear
Mae Llywodraeth Cymru wedi enwi’r panel arbenigol a fydd yn ystyried a oes sail wyddonol i ddifa moch daear er mwyn atal lledaenu TB ychol.

Cyhoeddodd y llywodraeth ym mis Mehefin eu bod nhw wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â difa moch daear, er bod y llywodraeth glymbleidiol flaenorol wedi ei gefnogi.

Cyhoeddodd Gweinidog Amgylcheddol Llywodraeth Cymru, John Griffiths, eu bod nhw’n bwriadu comisiynu panel arbenigol er mwyn cynnal ymchwiliad gwyddonol i’r dystiolaeth cyn bwrw ymlaen â’r cynllun.

Dywedodd y bydd yr adroddiad wedi ei gwblhau erbyn yr hydref.

Ymddiswyddodd cadeiryddion tri bwrdd rhanbarthol sy’n gyfrifol am geisio cael gwared â TB ychol yn sgil y penderfyniad gan honni fod Llywodraeth Cymru wedi eu “camarwain”.

Mae Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Cymru, yr Athro John Harries, a chadeirydd y panel, yr Athro Christopher Gaskell, bellach wedi cyhoeddi gweddill yr aelodau:

Yr Athro Syr Mansel Aylward, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yr Athro Malcolm Bennett, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Filhaint ac Athro Patholeg Filfeddygol Prifysgol Lerpwl

Yr Athro Bridget Emmett, Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Ecoleg a Hydroleg Bangor.

Yr Athro Charles Godfray o Adran Sŵoleg Prifysgol Rhydychen.

Yr Athro Dirk Pfeiffer pennaeth y Grŵp Iechyd Cyhoeddus ac Epidemioleg Filfeddygol yn y Coleg Milfeddygol Brenhinol.

Dywedodd Christopher Gaskell, Prifathro’r Coleg Amaethyddiaeth Frenhinol yn Cirencester, ei fod yn “hapus iawn ag ef”.

“Rydyn ni wedi dod ac ystod eang o brofiad a safbwyntiau at ei gilydd a fydd yn caniatáu i ni asesu’r dystiolaeth oedd wedi hysbysu’r rhaglen difa TB ychol,” meddai.

“Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda’r panel a gwneud gwaith pwysig mewn maes heriol.

“Fe fydd y panel yn gwahodd ac yn cymryd tystiolaeth gan arbenigwyr yn y maes. Mae disgwyl y bydd yr adroddiad wedi ei gwblhau erbyn yr hydref.”