Mark Evans - cyrraedd deg ucha'r byd
Mae sengl Cymraeg sy’n cael ei chanu gan seren sioe gerdd Wicked wedi cyrraedd rhif 5 yn siartiau cerddoriaeth byd itunes.

Mae ‘Adre’n Ôl’ wedi ei hysgrifennu gan Ynyr Llwyd a’r geiriau gan ei chwaer, Angharad Llwyd sy’n lleol i’r ardal. Mark Evans, seren sioe Wicked sy’n canu’r gân.

Roedd Sain yn lansio sengl digidol Mark Evans i’w lawrlwytho ddydd Llun.

“Mae’r newyddion yn wych i ni. Dyna’r ffordd rydan ni’n trio mynd beth bynnag rŵan,” meddai Dafydd Roberts o Sain wrth Golwg360.

“Dim ots gan bobl ei bod hi’n Gymraeg – dyna sy’n dda.

“Mae’n golygu ein bod ni’n cyrraedd marchnad ehangach. Dyma sy’n bwysig … Y gynulleidfa yw’r byd erbyn hyn. Os ydi o fyny ar itunes wedyn mae o ar gael dros y byd.”