Manon Rhys (llun S4C)
Manon Rhys sydd wedi ennill y Fedal Ryddiaith eleni, dan y ffug enw Sitting Bull.

Dyma’r tro cyntaf i Archdderwydd gynnal seremoni ar gyfer ei wraig ei hun.

Mentrodd 11 i gystadlu, a’r beirniaid eleni oedd Grahame Davies, Hazel Walford Davies a Branwen Jarvis. Roedd y wobr am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema “Gwrthryfel”.

Wrth draddodi’r feirniadaeth ar ran ei gyd-feiriniaid, dywedodd Grahame Davies, “Nid oeddem yn unfryd ynghylch teilyngdod y gwaith hwn, ond cytunwn mai’r stori sensitif ac ymataliol hon yw’r gryfa yn y gystadleuaeth.

“Dyma awdur crefftus a graenus, sy’n cydio’n emosiynol ac yn ddeallusol, sy’n feistr ar dafodiaith, ac sy’n ymddiried yn nychymyg y darllenydd. Dyma lenor talentog, llais gwreiddiol, a stori afaelgar.  Ar sail y cryfderau digamsyniol hynny, Sitting Bull gaiff y gwahoddiad i eistedd yn hedd yr Eisteddfod.”

Nofel seicolegol ar ffurf ymsonau cynnil a threiddgar yw hon sydd, medden nhw, mewn modd dirodres, yn datgelu bywyd mewnol y cymeriadau – yn bennaf dau blentyn gydag anghenion arbennig, sy’n rhannu dealltwriaeth gyfriniol.

Rhoddir y Fedal gan Gangen Siroedd Dinbych a Fflint o Undeb Amaethwyr Cymru a £500 o’r wobr ariannol o £750 gan Ymddiriedolaeth D.Tecwyn Lloyd a £250 gan Gymdeithas Owain Cyfeiliog, Wrecsam .

Cefndir yr awdur

Yn Nhrealaw, Cwm Rhondda, y ganwyd ac y magwyd Manon Rhys, yn chwaer fach i Megan a Mari, ond mae hi’n falch o gael arddel ei gwreiddiau yn Aberaeron a Thregaron. Mynychodd Ysgol Gynradd Gymraeg Ynys-wen, Treorci, ac Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth, cyn i’r teulu symud i Brestatyn.

Ar ôl gadael Ysgol Uwchradd Glan Clwyd a graddio yn y Gymraeg yn Aberystwyth, bu’n byw ym Mhorthaethwy, Rhosgadfan a Llandwrog, cyn ymgartrefu yng Nghaerdydd dros chwarter canrif yn ôl. Mae’n briod â Jim, yn fam i Owain a Llio Mair, yn ffrind i Tegid a Bedwyr, Katherine, Lleucu a Tom, ac yn fam-gu i Daniel, Mathew, Gruffudd, Joseff, Hopcyn a Dyddgu.

Ymhlith ei chyhoeddiadau niferus, mae Cwtsho, Tridiau ac Angladd Cocrotshen, trioleg Y Palmant Aur, Cornel Aur, a’r nofel Rara Avis, a gyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2006. Hi oedd golygydd y casgliadau o straeon Ar Fy Myw a Storїau’r Troad a’r casgliad o gerddi, Cerddi’r Cymoedd, a gwerthfawrogodd y cyfle i gydweithio â’r Athro M. Wynn Thomas wrth olygu’r gyfrol J. Kitchener Davies: detholiad o’i waith, sef casgliad cyflawn o weithiau ei thad. Am ddeng mlynedd, cydolygodd y cylchgrawn llenyddol Taliesin gyda’r Prifardd Christine James.

Ysgrifennodd amryw o sgriptiau teledu, gan gynnwys cyfresi poblogaidd fel Almanac, Pobol y Cwm, Y Palmant Aur a’r ffilmiau Iâr Fach yr Haf a Toili Parcmelyn.

Bu’n diwtor Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ac yn diwtor achlysurol yng Nghanolfan Ysgrifennu Creadigol Tŷ Newydd. Mae hi bellach yn ysgrifennu dilyniant Rara Avis, yn mwynhau hamddena a gweithio mewn carafán yn Sir Benfro, ac yn elwa ar berlau doethineb ei hwyrion.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro ar Fferm Bers Isaf, Wrecsam, tan 6 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.org.uk.