Arwel Ellis Owen
Mae S4C wedi cyhoeddi gwasanaeth newydd i ddysgwyr Cymraeg mewn datganiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam heddiw.

Y bwriad yw cynnig deunydd ar deledu yn wythnosol ar brynhawn Sul yn ogystal â gwefan benodol ar gyfer dysgwyr o fis Mawrth 2012 ymlaen.

“Mae gwaith ymchwil y sianel yn dangos fod y gynulleidfa yn dyheu am ehangu y gwasanaeth presennol i ddysgwyr,” meddai Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr S4C.

“Mae dysgwyr yn garfan bwysig o’n cynulleidfa. Mi fyddwn yn rhoi pwyslais newydd ar gynnig gwasanaeth gwell i’r rheini sy’n dysgu Cymraeg.

“Dydyn ni ddim yn bwriadu dyblygu nag ail greu gweithgareddau sydd eisoes yn cael eu cyflawni gan y Mentrau a’r Canolfannau sy’n darparu deunydd proffesiynol a chyflawn ar gyfer dysgwyr. Yr hyn y gallwn ni ei wneud ydi cynnig deunydd addas i’r gynulleidfa darged drwy rym ein cynnwys.

“Mi fydd cynnwys aml-blatfform yn cael ei deilwra i bwrpas ac yn cynnig adloniant a symbyliad i ddatblygiad y dysgwr unigol. Drwy sefydlu partneriaethau ym maes dysgu Cymraeg, mi fydd modd creu llwybr clir i ddysgwyr fydd yn golygu y byddan nhw’n gallu mwynhau cynnwys S4C yn ei gyfanrwydd maes o law.”

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn darlledu cyfres S4C cariad@iaith:love4language pan fu wyth o wynebau cyfarwydd yn dysgu Cymraeg am wythnos yng nghanolfan fforest, Cilgerran, Sir Benfro.

Cynhyrchwyd 2,000 o becynnau dechreuol i ddysgwyr yn cynnwys CD a llyfryn geirfa fel rhan o’r gyfres.

Oherwydd y galw mawr am y pecynnau, mae S4C wedi cynhyrchu 1,000 ychwanegol, medden nhw.

Mae’r pecynnau ar gael o adeilad S4C ar faes yr Eisteddfod yn Wrecsam.