Daniel Davies (llun S4C)
Daniel Davies o Benbontrhydybeddau, Ceredigion, sydd wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, dan y ffugenw Blod.

Mae wedi cyhoeddi nofelau o’r blaen, gan gynnwys Gwylliaid Glyndwr yn 2007, a Hei-Ho! Yn 2009.

Dim ond un nofel oedd wedi dod yn agos at y brig eleni – Tair Rheol Anrhefn. Roedd yn nofel “ddeallus a chyfoes” a “llawn hiwmor” meddai’r beirniaid, er bod gwendidau yn y plot.

Enillodd y Fedal yn ogystal â gwobr ariannol o £5,000 gan Siop y Siswrn, Wrecsam.

Mae’n byw gyda Linda a’u merched Lisa, Gwenno a Mari, eu ci Snwff, a’u cathod Sws a Blod ym Mhenbontrhydybeddau yng Ngheredigion.

Roedd ei dad Joe Davies yn heddwas yn Llanarth yn y sir. Cafodd ei addysg yn ysgol y pentref ac Ysgol Uwchradd Aberaeron.

Mae ganddo radd a doethuriaeth mewn cemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Roedd yn newyddiadurwr â’r Cambrian News a’r BBC.

Emyr Llywelyn oedd yn traddodi’r feirniadaeth. Cafodd gymeradwyaeth am feirniadu’r defnydd o’r Saesneg mewn deialog nofelau Cymraeg.

Dywedodd hefyd nad dynwared iaith lafar fratiog oedd gwaith awduron, chwaith.