Flyer Steddfod Wrecsam - gigs Cymdeithas
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi y bydd hanner eu helw o gig nos Sadwrn olaf y Steddfod yn mynd at ymddiriedolaeth cefnogwyr Wrecsam.

Cyhoeddodd y gymdeithas heddiw eu bod nhw wedi ffurfio partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth cefnogwyr y clwb.

Y nod medden nhw yw sicrhau dyfodol ariannol y clwb y mae’r Ymddiriedolaeth yn gobeithio ei brynu.

Cynhelir y gig ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod yng Nghlwb Gorsaf Ganolog Wrecsam.

Bydd sawl artist lleol yn cymryd rhan yn y gig, gan cynnwys Mother of Six, Band Cambria a’r Pencampwr Celf Ymladd Pol Wong.

Ar ben hynny bydd Bob Delyn a Geraint Lovgreen, sy’n dal tocyn tymor gyda CPD Wrecsam, yn cymryd rhan.

“Fel y dywed cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Richard Jones, ‘curiad calon y Clwb yw ei gefnogwyr’ ac mae hefyd yn wir mai’r clwb yw curiad calon y gymuned i lawer,” medd Osian Jones, trefnydd y Gymdeithas yn y Gogledd.

“Yn yr Eisteddfod eleni yr ydyn wedi cyhoeddi siarter ‘Tynged yr Iaith’ sy’n pwysleisio pa mor bwysig yw sicrhau parhad pob cymuned yng Nghymru, ac mae’n bleser gennym ni gydweithio gydag Ymddiriedolaeth cefnogwyr Clwb Pêl-Droed Wrecsam, a chwarae rhan fach i helpu sicrhau dyfodol y clwb.”

Mae Geraint Lovgreen wedi annog pobl i ddod i’r gig er mwyn cefnogi’r ymddiriedolaeth.

“Dyma gyfle i eisteddfodwyr i helpu achub y clwb a chyfrannu at y gymuned leol mae’r gŵyl yn ymweld a hi,” meddai.

Bydd y drysau yn agor am 7pm, a tocynnau yn costio £8.

Mae tocynnau ar werth o flaen llaw o cymdeithas.org/steddfod, uned Cymdeithas yr iaith ar y Maes, Caffi Yales drws nesaf i’r Orsaf Ganolog, neu wrth y drws ar y noson.