Casey Breese
Mae teulu wedi talu teyrnged i fachgen 12 oed “bywiog a llawn egni” fu farw ar ôl i byst gôl syrthio ar ei ben wrth iddo chwarae pêl-droed.

Fe fu farw Casey Breese yn fuan wedi’r trychineb ar feysydd chwarae Caersws, ym Mhowys, ddydd Gwener.

“Roedd Casey yn fachgen bywiog a llawn egni oedd yn llawn hwyl ac roedd y gymuned gyfan yn ei garu,” meddai’r teulu.

“Unwaith neidiodd yn ei ddillad i mewn i bwll nofio a dim ond meddwl wedyn beth oedd ganddo yn ei bocedi.

“Roedd wrth ei fodd yn treulio amser â’i dad yn ei gwmni adeiladu ac wrth ei fodd yn cael ei ddwylo’n fudr.

“Mae cymaint o ffrindiau a theulu a phobol yn y gymuned yn cofio Casey a bydd pawb yn gweld ei eisiau.

“Roedd yn bêl-droediwr brwd ac yn aelod pwysig o dîm dan 12 Cersws.”

Derbyniodd Casey Breese driniaeth yn y fan a’r lle ar ôl y ddamwain . Aethpwyd ag ef mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Brenhinol yr Amwythig ond fe fu farw yno.

Mae’r heddlu wedi galw ar unrhyw un a welodd beth ddigwyddodd i gysylltu â nhw.