Swyddfa S4C
Mae Aelod Seneddol Ceidwadol wedi ymosod yn ffyrnig ar S4C gan ddweud fod angen diwygio’r sianel er mwyn adennill hyder y gwylwyr.

Daw sylwadau Alun Cairns ar ôl i adroddiad beirniadol gan Brifysgol Cymru, oedd wedi ei chomisiynu gan S4C eu hunain, fynd i ddwylo’r wasg.

Yr wythnos diwethaf cadarnhaodd Prifysgol Cymru fod aelod o staff wedi ei atal o’i waith ar ôl i’r adroddiad cyfrinachol gael ei ollwng i ddwylo’r wasg.

Roedd yr adroddiad wedi ei hysgrifennu gan Richie Turner, dirprwy gyfarwyddwr Academi Ryngwladol Prifysgol Cymru, oedd wedi  cyfweld gweithwyr a  chyfranogwyr S4C rhwng mis Mawrth ac Ebrill.

Yn ôl canfyddiadau’r adroddiad, mae gwylwyr yn teimlo nad yw’r sianel bellach yn deall beth yw cymdeithas sy’n siarad Cymraeg, ac mae angen newid sawl peth o fewn y sianel os yw am oroesi yn y dyfodol.

Beirniadaeth

Dywedodd Alun Cairns na ddylai cadeirydd newydd Awdurdod S4C, Huw Jones, wneud y camgymeriad o feddwl mai’r weinyddiaeth flaenorol oedd yn cael eu beirniadu yn yr adroddiad.

“Mae yna gamddealltwriaeth ymysg rhai bod y feirniadaeth yn yr adroddiad yn ymwneud â’r weinyddiaeth flaenorol,” meddai wrth bapur newydd y Western Mail. “Dyw hynny ddim yn wir o gwbl.

“ Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y trefniadau presennol. Mae gan S4C enw am geisio cuddio sylwadau beirniadol o’r fath.”

Dywedodd ei fod yn “grac iawn” fod diffyg ymroddiad i “wylwyr a’r gymuned iaith Gymraeg” o fewn y sianel.

“Rydw i’n gefnogol iawn i Huw Jones a rhai aelodau o’r awdurdod ond mae gen i amheuon mawr am roi aelodau o’r bwrdd,” meddai Aelod Seneddol Bro Morgannwg.

“Dylid rhoi blaenoriaeth i gyllidebau rhaglenni a sicrhau fod toriadau yn cael eu gwneud yn ganolog.”

Dywedodd llefarydd ar ran S4C fod y rhan fwyaf o’r sylwadau yn yr adroddiad yn ymwneud â’r gorffennol.

Roedden nhw hefyd yn estyn gwahoddiad i Alun Cairns i ymweld â maes yr Eisteddfod yn Wrecsam er mwyn gweld beth oedd S4C yn ei olygu i’r gwylwyr.