Eglwys Yr Holl Saint, Maerdy
Mae plwyfolion oedd wedi ymgyrchu i gadw Eglwys yr Holl Saint ym Maerdy ar agor wedi pleidleisio i’w brynu gan yr Eglwys yng Nghymru.

Roedd yr Eglwys wedi dweud ei fod yn rhy gostus i’w gadw ar agor ac fod angen gwario £400,000 arno.

Dywedodd Cyngor Plwyf Eglwysig y Rhondda Fach Uchaf (Maerdy, Glynrhedynog a Tylorstown) ei fod yn ormod o faich ariannol ar y plwyf cyfan i’w gadw ar agor.

Ond gwrthododd rhai o blwyfolion yn eglwys yn Rhondda Cynon Taf symud gan aros yn yr eglwys bob awr o’r dydd ers Gorffennaf 3 er mwyn atal yr Eglwys yng Nghymru rhag ei gau.

Yr wythnos diwethaf cynigiodd yr Eglwys yng Nghymru Eglwys yr Holl Saint i’r ymgyrchwyr am £1,000. Byddai werth £25,000 ar y farchnad agored.

Fe ddywedodd Archesgob Cymru eu bod yn gallu gwerthu’r Eglwys am y pris hwn ar yr amod ei bod yn cael ei chadw “fel man addoli”.

Doedd ddim am ofyn am ragor o arian na’r costau gweinyddol wrth werthu’r adeilad, meddai.

“Rwy’n rhoi yn union beth mae protestwyr Maerdy  wedi  gofyn amdano iddyn nhw  – cyfle i achub Eglwys yr Holl Saint rhag cau,” meddai Dr. Barry Morgan.

Dywedodd nad ei le ef oedd gwrthdroi penderfyniad Cyngor Plwyf Eglwysig y Rhondda Fach Uchaf, oedd wedi ei ethol yn ddemocrataidd.

Dywedodd yr ymgyrchwyr mewn cyfarfod neithiwr mai’r cam nesaf fydd sefydlu pwyllgor fydd yn arwain y broses o brynu’r eglwys.

Roedd angen cyfreithiwr a rhywun gyda gwybodaeth am gyfraith Eglwysi arnyn nhw, meddai llefarydd.

Ychwanegodd y protestwyr nad ydyn nhw’n credu fod angen gwario £400,000 ar adfer yr eglwys, a bod y gost wirioneddol yn agosach at £100,000.