Mae merch 26 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A465 ger Gurnos, Merthyr Tudful.

Mae Heddlu De Cymru yn galw am lygaid dystion yn dilyn y gwrthdrawiad am 4.15pm brynhawn ddoe ar ffordd Blaenau’r Cymoedd.

Roedd car Mitsubishi Colt arian wedi ei yrru gan y ferch 26 oed yn teithio i’r gorllewin i gyfeiriad Merthyr ar hyd yr A465 pan wrthdarodd â char Mercedes E220 du.

Roedd dyn 53 oed yn gyrru’r car hwnnw i’r dwyrain ar hyd yr un ffordd.

Galwyd y gwasanaethau brys i safle’r ddamwain gan drin y ddau yrrwr a theithiwr benywaidd oedd yn y Mercedes.

Serch hynny ni lwyddwyd i achub gyrrwr y Mitsubishi ac fe fuodd hi farw yn y fan a’r lle.

Aethpwyd a gyrrwr a theithiwr y Mercedes i’r ysbyty yn dioddef o sawl anaf a braw. Dydyn nhw ddim mewn cyflwr difrifol.

Caewyd y ffordd am bedair awr wrth i’r heddlu ymchwilio.

Dylai unrhyw un sydd gyda gwybodaeth ffonio 02920 633438 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.