Dinistr tsunami Japan
Mae gwyddonwyr o Gymru wedi creu ‘ap’ newydd i’r iPhone a fydd o ddefnydd i achubwyr a dioddefwyr mewn trychinebau tebyg i’r daeargryn a’r tsunami yn Japan.

Mae iSam wedi ei ddatblygu gan Ysgol Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol Caerdydd.

Mae’r ap yn caniatáu i bobol sydd wedi eu dal gan drychineb rannu gwybodaeth ymysg ei gilydd yn hawdd.

Er enghraifft, gall pobol uwch lwytho fideos a delweddau yn syth yn dilyn y trychineb fel bod pobol eraill yn cael gwybod yn union beth sydd wedi digwydd.

Bydd cysylltiadau 3G a diwifr yr iPhone o ddefnydd gan fod trychinebau yn aml yn difrodi ffyrdd eraill o gyfathrebu, gan gynnwys llinellau ffon, medden nhw.

“Fe allai’r ap achub bywydau am ei fod yn rhoi’r holl wybodaeth yn dy law di, sy’n ddefnyddiol iawn i achubwyr hefyd,” meddai’r Athro Alun Preece o’r adran.

“Efallai fod angen gwybod os ydi pont dal yn sefyll – a bydd yr ap yn sicrhau fod yr holl wybodaeth ar flaen dy fysedd.

“Y nod yn y pen draw wrth ddatblygu’r ap oedd achub bywydau.”