Bedwyr Williams
Welingtons gwyrdd wedi’u stwffio â gwellt, ffoto o ffermwr yn syllu i fyny ffordd fynyddig a chlawr Fferm a Thyddyn wedi’i weddnewid. Dyma rai o’r gweithiau celf gan enillydd Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro 2011.

Mae Bedwyr Williams, yr artist o Rostryfan ger Caernarfon, wrthi’n datblygu cyfres newydd sy’n dathlu diwylliant cefn gwlad.

“Mae’r artist hwn yn cloddio ei hunaniaeth Gymreig, gan atgyfodi cof personol a’r profiad o dyfu fyny yma, a chyfuno ei wybodaeth o’r wlad yn ymarfer celf sy’n fyfyriol a hunan fychanol, a gall ochrgamu’n gyflym i mewn ac allan o stereoteipiau a gwawdluniau,” meddai un o’r detholwyr, Alessandro Vincentelli.

“Mae ei synnwyr digrifwch anghyfforddus, sych ac weithiau lletchwith yn myfyrio ar wahaniaethau diwylliannol drwy enghreifftiau a phrofiadau penodol.,” meddai ei gyd-ddetholwr, Steffan Jones-Hughes. “Mae’n ein cynorthwyo i ymchwilio’r cyffredinol drwy’r personol.

“Mae gan Bedwyr Williams ddawn i gymysgu’r traddodiadol a’r cyfoes mewn modd nad oes angen gwybodaeth rhagblaen am hanes celf na gwag siarad cyd-destunol gormodol.

“Mae’n briodol bod artist o’i statws ef, sydd ag enw o bwys mewn celf gyfoes ym Mhrydain, yn cael ei gydnabod gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar yr adeg hon. Artist o Gymro yn byw yng Nghymru yn gwneud gwaith sydd yn ymwneud â Chymreictod, dieithrwch ac arwahanrwydd.

“Mae natur anghyfforddus i’w waith yr wyf i’n hoff ohono – sef troi’r cyffredin yn rhywbeth sy’n ein gorfodi i gwestiynu’r hyn a wyddom. Mae ei welingtons ar un llaw yn un o’r pethau mwyaf sylfaenol, mae gan bob cartref yng Nghymru bâr.

“Ac mae Bedwyr Williams yn gwyrdroi’r rhain ac yn eu gwneud yn dorlun leino, yr arwyneb wedi ei gerfio â symbolau bywyd gwledig.”

Yn ôl y ddetholwraig, Lois Williams, mae’r artist “yn cyfuno celfyddyd a bywyd mewn ffordd gyfoethog a ffraeth, gan gwestiynu ein perthynas â phopeth sydd o’n cwmpas, a’n gwneud yn ymwybodol o’n storïau ein hunain.”

Mae Bedwyr Williams yn rhannu’r wobr ariannol o £5,000 yn yr adran Celfyddyd Gain gyda Helen Sear o Rhisga.

Detholwyd Arddangosfa Celfyddydau Gweledol Wrecsam a’r Fro 2011 gan Steffan Jones-Hughes, Alessandro Vincentelli a Lois Williams. Dyfernir Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain ynghyd â £5,000 yn ôl doethineb y detholwyr. Gwireddir Y Lle Celf mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru.