Mae gor-or-or-ŵyr gwneuthurwr Cadair Ddu Eisteddfod Wrecsam wedi eistedd yn y sedd gan barhau traddodiad teuluol sy’n dyddio’n ôl dros 100 o flynyddoedd.

Mae’r cadair Eisteddfod Wrecsam 1876 yn cael ei arddangos yn Llyfrgell Wrecsam ar hyn o bryd.

Roedd Taliesin o Eifion, enillydd y gadair, yn saer dodrefn a gwneuthurwr arwyddion o Langollen. Bu farw ddiwrnod ar ôl anfon ei awdl i’r eisteddfod.

Yn ystod y seremoni ddwys yn y pafiliwn anferth ym 1876, gorchuddiwyd y gadair â brethyn du ac yn fuan iawn cafodd ei galw’n ‘Gadair Ddu’.

Dim ond dwy gadair ddu sy’n bodoli – yr un arall yw’r gadair ddu enwog a enillwyd gan Hedd Wyn ym 1917.

Fe ymwelodd Ivor Roberts, sy’n 10 oed ac yn byw yng Nghaerdydd â’r llyfrgell er mwyn eistedd yn y gadair a wnaed gan ei hen, hen, hen daid John Roberts 135 o flynyddoedd yn ôl.

Mae pob cenhedlaeth o’r teulu wedi cael eistedd yn y gadair dderw unigryw, sydd wedi ei orchuddio gyda cerfiadau cain gan gynnwys symbolau derwyddol ac arfbeisiau.

“Mae Ivor wrth ei fodd o gael eistedd yn y gadair a wnaed gan ei hen, hen, hen daid – mae’n achlysur arbennig i ni fel teulu ac rydyn ni’n falch iawn ein bod yn gysylltiedig ag agwedd mor bwysig o’n treftadaeth,”  meddai Mam Ivor, Hilary Roberts.

Cafodd Cadair Ddu Taliesin o Eifion ei benthyg gan Wasanaethau Treftadaeth Sir Ddinbych a bydd hi’n cael ei harddangos yn Llyfrgell Wrecsam tan ddiwedd mis Awst.