Sgandals academaidd, camymddwyn Mr Urdd, helyntion S4C, a ffrwgwd Plaid Cymru – mae’r cylchgrawn Lol ddiweddaraf ar ei ffordd i faes yr Eisteddfod yn Wrecsam.

“Mae’n rhifyn swmpus eleni eto,” meddai cyfarwyddwr dienw Cwmni Drwg, sy’n cyhoeddi’r cylchgrawn sy’n siŵr godi gwrychyn.

“Bydd ’na ddigon am S4C eto, a’r contractie y maen nhw wedi eu rhoi i gwmnïe, yn enwedig Boomerang.”

Mae’r cylchgrawn yn gwahodd cynnwys o bob cwr i’r rhifyn blynyddol sy’n cael ei gyhoeddi ar wythnos yr Eisteddfod, ac mae’r ymateb wedi bod yn frwd unwaith eto.

“Ma’ tipyn o sgandals academaidd wedi ein cyrraedd ni eleni,” meddai’r cyfarwyddwr, “ac ma’ dogfen fewnol wedi slipio drwodd aton ni o’r BBC yn trafod toriadau posib.

“Ac ma’ spread ’da ni am Mr Urdd, yn datgelu ei ddefnydd o gyffuriau a’i gamymddwyn â gwahanol ferched.”

Mae hynt Plaid Cymru hefyd yn amlwg yn y cylchgrawn eleni, yn ôl y llefarydd anhysbys – yn enwedig hanes y ffrwgwd rhwng Sian Caiach a Phlaid Cymru.

Bydd y cylchgrawn yn “olrhain hanes yr anghydfod hwnnw, ac yn gofyn beth ddigwyddodd yn Ysgol Haf Hafana,” meddai.

“A bydd Lol yn edrych ar sut y cafodd hi ddial ar y blaid am ei diarddel, trwy fynd â phleidlais Helen Mary Jones yn Llanelli eleni.”

“Felly,” meddai’r cyfarwyddwr dienw, “bydd ’na rifyn llawn hiwmor a chartwnau eleni eto.”

Bydd y cylchgrawn ar werth ar Faes yr Eisteddfod drwy’r wythnos am £3.