Western Mail
Fe fydd Cynulliad Cymru yn cynnal ymchwiliad i gyflwr y cyfryngau yng Nghymru yn hwyrach eleni.

Daw’r ymchwiliad wedi pryder ynglŷn â thoriadau mawr i ddiwydiant print a darlledu’r wlad.

Bydd grŵp tasg yn cael ei sefydlu ym mis Medi er mwyn ymchwilio i’r “materion sy’n debygol o effeithio ar y cyfryngau yn y dyfodol”.

Y bwriad gwreiddiol oedd y byddai’r ymchwiliad yn edrych ar y cyfryngau ddarlledu yn unig, ond mae’n debyg fod ei gylch gwaith wedi ei ehangu i gyfryngau print.

Daw’r penderfyniad hwnnw ar ôl cyhoeddiad Media Wales, sy’n cyhoeddi sawl papur newydd gan gynnwys y Western Mail a’r Daily Post, yn torri 22 o swyddi golygyddol.

Bydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cyfarfod ym mis Medi er mwyn penderfynu ar gylch gwaith terfynol y grŵp.

Bydd yr ymchwiliad yn mynd rhagddo ddiwedd mis Medi a bydd y cyrff fydd yn cael eu galw i roi tystiolaeth yn cael gwybod dros yr haf, meddai’r Press Gazette.

“Mae yna newidiadau mawr i’r modd y mae S4C a’r BBC yn cael eu hariannu, ac mae yna heriau yn wynebu darlledu a’r cyfryngau print yn gyffredinol,” meddai’r AC Bethan Jenkins wrth Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

“Nawr yw’r amser i wneud rhywbeth, am fy mod i’n credu fod y cyhoedd eisiau i ni gymryd diddordeb yn y pwnc yma.”