Diffyg buddsoddiad sydd ar fai am y tagfeydd mawr ar yr M4 sydd wedi dod yn sgil tân mewn twnnel ar y draffordd, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig.

Mae’r awdurdodau wedi rhybuddio y gallai’r twnnel gorllewinol fod ar gau am rhai dyddiau eto wrth iddyn nhw asesu’r difrod.

Fe aeth lori ar dân yno tua 8.30am ddoe gan achosi tagfeydd am filltiroedd yn y ddau gyfeiriad.

Mae’r ffordd orllewinol dal ar gau ac mae’n rhaid i geir deithio yn y ddau gyfeiriad ar y ffordd ddwyreiniol.

Dywedodd llefarydd yr wrthblaid ar drafnidiaeth, Byron Davies, y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi paratoi yn well ar gyfer tagfeydd o’r fath.

Mae’n brawf pellach y dylai y Llywodraeth fod wedi buddsoddi mewn ffordd liniaru er mwyn lleddfu’r tagfeydd o amgylch Casnewydd.

“Mae’r anrhefn bresennol o ganlyniad i fethiant Llywodraeth Lafur i fuddsoddi mewn ffordd liniaru yn ystod y blynyddoedd llewyrchus,” meddai.

“Nawr, pan mae arian cyhoeddus yn brin, mae ein heconomi ni wedi colli buddsoddiad hanfodol am nad ydi rhwydwaith ffyrdd Cymru yn gallu cwrdd â’r galw.

“Mae angen i weinidogion weithio yn agosach â’r awdurdodau er mwyn ymchwilio yn drylwyr i’r hyn ddigwyddodd a thrwsio’r twnnel fel bod ffordd bwysicaf Cymru yn gallu ail-agor cyn gynted a bo modd er mwyn lleddfu’r niwed i economi Casnewydd a de Cymru.

“Mae’r rhan yna o’r M4 yn dioddef o dagfeydd yn ystod yr oriau prysuraf beth bynnag, ac fe fydd y straeon ychwanegol yn cael effaith niweidiol ar fusnesau, clydwyr, a thwristiaeth.”