Mae miloedd o bobol eisoes wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu cau gorsaf gwylwyr y glannau Abertawe.

Cynhalwyd cyfarfod cyhoeddus yn y Mwmbwls nos Wener er mwyn lansio’r ymgyrch swyddogol i wrthwynebu’r penderfyniad.

Un o’r materion dan sylw oedd penderfyniad y DVLA, sydd gyda’i bencadlys yn y ddinas, i wahardd miloedd o’u gweithwyr rhag dosbarthu’r ddeiseb.

Dywedodd swyddog diwydiannol undeb y PCS, Mike Hallinan, fod yr ymateb yn un “gwbwl dros ben llestri” ac na ddylen nhw “atal staff rhag cefnogi mater y mae pawb yng nghymuned Abertawe yn pryderu amdano.”

Ond dywedodd llefarydd ar ran y DVLA “nad yw hi’n bolisi gennym ni i ganiatau ymgyrchu gwleidyddol sydd yn erbyn polisi’r llywodraeth, ar eiddo’r llywodraeth.”

Abertawe yw un o’r wyth gorsaf sydd i fod i gau erbyn 2015, ac mae’r Asiantaeth Morwriaeth a Gwylwyr y Glannau yn dweud y bydd y trefniadau newydd yn “fwy effeithlon”.

Mae Gorsaf Gwylwyr y Glannau Abertawe yn Tutt Head, y Mwmbwls, yn cyflogi 28 o staff.

Bydd gorsafoedd Aberdaugleddau a Chaergybi yn cael eu cadw ar agor – sef dau allan o’r naw gorsaf sydd i gael eu diogeli rhag y cau.

Bydd y cyfnod ymgynghori ar gyfer gorsaf Abertawe yn dod i ben ar 6 Hydref eleni.