Pafiliwn pinc Wrecsam
Bydd yr Eisteddfod a Chasgliad y Werin yn cydweithio yn ystod wythnos yr Eisteddfod er mwyn casglu atgofion Eisteddfodwyr Cymru.

Bydd lluniau o Eisteddfodau’r gorffennol i’w gweld o amgylch y Maes – o’r 1930au i luniau o Brifwyl y llynedd.

Gobaith y trefnwyr yw y bydd ymwelwyr yn mwynhau’u gweld ac y bydd y rhain yn sbarduno atgof neu stori, ac y bydd pobol yn galw draw i stondin Casgliad y Werin i rannu eu hanes.

Bydd gan yr Eisteddfod thema wahanol bob dydd, ac yn annog pobol i rannu straeon am yr rheini yn benodol, yn ogystal a hanesion cyffredinol am yr Eisteddfod trwy gydol yr wythnos.

Thema’r dydd Sadwrn cyntaf fydd Trefi’r Eisteddfod. Bydd y trefnwyr yn holi pa dref oedd y lleoliad gorau ar gyfer yr Eisteddfod, a beth sy’n gwneud tref Eisteddfod dda?

Dydd Sul fe fydd cyfle i rannu atgofion am ‘fasgots’ ar Faes yr Eisteddfod – gan gynnwys  Sam Tân, Superted, Twm Tap a’r dylluan, Rowland.

Seremonїau yw’r thema ddydd Llun – ac mae’r Eisteddfod yn chwilio am atgofion pobl go iawn.  Oeddech chi’n eistedd yn agos at Donald Evans yn y Pafiliwn pan enillodd y dybl nol yn 1977?  Oeddech chi’n un o ferched y ddawns flodau?  Lle oeddech chi pan enillodd Mererid Hopwood y Gadair yn 2001?

Dydd Mawrth, bydd yr Eisteddfod eisiau clywed gan gystadleuwyr – ac nid dim ond y rheini ddaeth yn gyntaf, ail neu drydydd.  A gawsoch chi gamyn y ganrif ddiwethaf gan y Genedlaethol?  A aeth rhywbeth o’i le wrth i chi gystadlu?  Ai chi a fethodd daro’r symbal ar yr adeg iawn a cholli’r wobr i’ch band pres?

Dydd Mercher bydd y trefnwyr yn chwilio am straeon am gigs y gorffennol – ac fe fydd gennyn nhw un neu ddau o luniau ar y Maes i’ch hatgoffa am y dyddiau gynt.  Maen nhw eisiau help i adnabod pawb ynddyn nhw.

Thema dydd Iau fydd stondinau a stondinwyr.  Byddwn y trefnwyr hefyd yn cynnig cyfle i stondinwyr rannu’u hatgofion am eu hymweliadau lu â’r Eisteddfod.

Gyda’r wythnos yn tynnu tua’i therfyn, atgofion am aros yn yr Eisteddfod fydd yn mynd â’r sylw ddydd Gwener.  Ydych chi’n garafaniwr o fri?  Pryd oedd y tro cyntaf i chi ddod i’r Maes carafanau?  Beth yw’ch atgofion chi o’r maes ieuenctid?

Ac ar y diwrnod olaf, fe fydd y trefnwyr yn hel atgofion am uchafbwyntiau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro. Beth oedd y peth gorau am y ‘Steddfod eleni?  Pa un oedd eich hoff gig?

Os hoffech chi lwytho gwybodaeth cyn yr wythnos, ewch i www.casgliadywerincymru.co.uk ac ychwanegu’ch gwybodaeth chi i’r wefan.