Mae milfeddyg o Geredigion wedi cael ei atal o’i waith am bum mis wedi i reoleiddwyr benderfynu nad oedd wedi cynnal profion TB yn gywir ar wartheg.

Penderfynodd Coleg Brenhinol y Milfeddygon fod Dewi Wyn Lewis, o Filfeddygfa Priody, Aberteifi, yn euog o gamymddwyn proffesiynol difrifol.

Pan ymddangosodd o flaen y pwyllgor disgyblu, roedd yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Dywedodd y Coleg Brenhinol fod Dewi Wyn Lewis yn brofiadol a bod pobol yn meddwl yn uchel ohono, ac nad oedden nhw’n credu y byddai’n gwneud yr un peth eto.

Cafodd ei gyhuddo o gymryd mesuriadau croen gwallus ar wartheg a rhoi cadarnhad anghywir i’r ffermwyr ar ôl dau ymweliad â fferm yn Ebrill 2009 i wneud profion TB.

Cydnabod ei ‘enw da’

Mae’r pwyllgor wedi rhoi ystyriaeth fawr i’r ffaith fod Dewi Wyn Lewis yn filfeddyg profiadol sydd ag enw da yn ei ardal leol.

Dywedodd y Coleg Brenhinol fod y milfeddyg yn derbyn nad oedd wedi cynnal y profion TB yn y modd yr oedd yn angenrheidiol yn ôl Iechyd Anifeiliaid, sy’n adain o Defra, a’i fod wedi cymryd camau i arbed amser.

Ond roedd yn gwadu’r cyhuddiadau o gamymddwyn yn broffesiynol, a hynny er bod y cyfarwyddiadau yn dweud yn amlwg bod eisiau defnyddio caliper i fesur trwch plyg y croen ar yddfau gwartheg ar ddiwrnod cyntaf yr arbrofi. Roedd peidio defnyddio caliper, a defnyddio’i fys a’i fawd i fesur, yn fethiant yn ôl y cyfarwyddiadau.

Dywedodd y Coleg Meddygol fod Dewi Wyn Lewis hefyd yn dadlau bod rhai anghysonderau i’w cael yng nghyfarwyddiadau’r Iechyd Anifeiliaid ar ddefnydd caliper ar yr ail ddiwrnod o brofi anifeiliaid.

Mewn theori, roedd y cyfarwyddiadau yn golygu defnyddio caliper i fesur bob anifail, ond yn ymarferol roedden nhw’n derbyn nad oedd rhaid defnyddio caliper pan oedd ymateb i TB yn medru cael ei ddarganfod drwy archwilio’r croen â llaw. Roedd y pwyllgor yn derbyn hyn.

Dywedodd Dewi Wyn Lewis ei fod wedi gwneud yr hyn yr oedd Iechyd Anifeiliaid yn gofyn iddo, a’i fod wedi defnyddio caliper ar wartheg yr oedd e wedi eu dynodi ar gyfer ymchwil pellach, meddai’r Coleg Meddygol.

Dywedodd y Cyngor Meddygol ei bod hi’n bwysig cofio “nad oedd y cadarnhad anghywir a gafodd y ffarmwr yn anonest, ac ni chynigwyd yr un esgus personol na phroffesiynol gan Dewi Wyn Lewis.”

Mae’r pwyllgor hefyd wedi rhoi pwyslais arbennig ar y ffaith fod “Dewi Wyn Lewis yn filfeddyg profiadol sydd ag enw da iawn yn ei gymuned leol. Dyw hi ddim yn ymddangos y bydd hyn yn digwydd eto mewn amgylchiadau eraill.”