Gruff Rhys
Dyl Mei sydd wedi bod yn sgwrsio â Gruff Rhys wrth iddo baratoi i berfformio yng Ngŵyl Gardd Goll y penwythnos hwn.

Dros y penwythnos mae Gŵyl Gardd Goll yn cael ei chynnal yn Ystâd y Faenol ger y Felinheli. Mae’r ŵyl wedi tyfu eleni, ac mae enwau mawrion Badly Drawn Boy ac Echo and the Bunnymen ymysg y rhai sy’n perfformio. Un arall fydd yn diddanu’r dorf yw’r bytholwyrdd ac anhygoel o flewog Gruff Rhys. Dyl Mei fu’n sgwrsio efo’r seren wrth iddo baratoi i ymweld â bro ei febyd…

Dyl Mei: Yn 1976, rhyddhawyd ffilm o’r enw “One hour to zero” wedi ei selio mewn pentref ffug o enw “Llynfawr”, ond wedi ei ffilmio yn Nhrawsfynydd.

Mae’r ffilm yn dilyn criw o blant sy’n ceisio ffoi’r ardal ar rybudd y bydd y pwerdy niwclear lleol yn chwythu. Os fysa chdi yn Nhrawsfynydd neu “Llynfawr” y diwrnod yna, be fysa chdi’n neud hefo dy awr olaf?

Gruff: Efallai ymweliad â’r fferyllfa leol, neu’r dafarn gymunedol newydd yn Llanffestiniog, eistedd yn ôl, a mwynhau’r olygfa – Apocalypse dros Ardudwy.

Mae’r bobol sy’n cefnogi agor atomfa newydd yn Ynys Môn yn hollol wallgof! Yn enwedig os ydynt yn poeni am ddyfodol yr iaith! ‘Bydd neb ar ôl i adrodd yr hanes’ mewn gair: ‘Fukushima’

Dyl Mei: Faenol ta Finyl?

Gruff: Yr hen gwestiwn, beth ydi Stâd y Finyl?

Dyl Mei: Wyt ti bach yn siomedig y bydd Bryn Terfel ddim yn ymuno hefo chi ar y llwyfan i berfformio, fel oedd yn digwydd mewn gŵyl arall oedd arfer digwydd yn y lleoliad yma?

Gruff: Dwi’n caru Bryn Terfel, felly, ydw, Siomedig iawn.

Dyl Mei: Os fysa rhywun yn ddigon gwallgo’ i ail neud y ffilm “Gwaed ar y Sêr”, pa sêr fysa chdi’n hoffi gweld yn serennu? Fel y dioddefwyr ac fel y llofrudd? A fysa’n bosib lladd rhywun mewn ffordd fwy anhygoel na rhoi trydan trwy delyn?

Gruff: Syniad Gwych! Efallai gallai arwr o’r byd chwaraeon gael ei gywasgu gan do symudol stadiwm y mileniwm. (mewn CGI 3-D)

Dyl Mei: Wedi llwyddiant y gigs efo’r Niwl, oes a bwriad i recordio unrhyw ddeunydd hefo’r grŵp?

Gruff: Da ni wedi recordio soundtrack gyda’n gilydd i ffilm gan Phil Collins (go iawn!)

Dyl Mei: Ti’n ymddangos fel gwenynwr yn fideo i’r sengl ‘Honey all Over’. Oes gen ti unrhyw gyngor i’r rhai sy’n dod i Ŵyl Gardd Goll ynglŷn â sut i osgoi cael eu pigo gan wenyn?

Gruff: Peidiwch gadael eich pabell!

Dyl Mei: Sut  brofiad oedd perfformio ac aros yng Ngwesty Tony ac Aloma, y Gresham yn Blackpool?

Gruff: Ysgytwol! Does neb yn gresynu ymweliad a’r Gresham.

Dyl Mei: Ydan ni’n debygol o weld cerddoriaeth dy ffilm, ‘Seperado’ yn cael ei ryddhau?

Gruff: Gobeithio, mae’n glamp o albwm. Mae o’i gyd yn barod i’w ryddhau unwaith dwi’n cytuno gyda dosbarthwr. Mae ynddi 8 cân newydd, 10 darn offerynnol a chaneuon ychwanegol gan Kerdd Dant a gwesteion eraill.

Dyl Mei: Be fysa’r News of the World yn debygol o glywed os fysant nhw’n torri mewn i dy negeseuon ffôn symudol?

Gruff: Dim byd o lawer o bwys.

Dyl Mei: Ac yn olaf, dwi ar ddeall mai hwn fydd y tro cyntaf i Echo and the Bunnymen a Badly Dawn Boy berfformio mewn gŵyl yng ngogledd Cymru. Oes yna unrhyw gyngor fydde ti’n ei roi iddyn nhw ynglŷn â sut i blesio cynulleidfa llawn Cymry?

Gruff: Perfformio o flaen union jack anferthol.

Mae Gruff Rhys yn perfformio yng Ngŵyl Gardd Goll nos Wener yma, 22 Gorffennaf. Mae mwy o wybodaeth a manylion tocynnau ar wefan yr ŵyl – http://www.gwylgarddgoll.com