Glyn Wise ar Big Brother
Bum mlynedd wedi i Glyn Wise gael ei alw’n ‘Britain’s Biggest Idiot’ gan y Daily Star, bydd seren rhaglen deledu Big Brother yn derbyn gradd gan Brifysgol Caerdydd.

Dywedodd y bachgen o Flaenau Ffestiniog ei fod yn credu y bydd ei radd 2:1, wedi tair blynedd o astudio yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, yn cau cegau’r beirniaid unwaith ac am byth.

“Roedd rhaid pobol wedi cael yr argraff fy mod i braidd yn wirion, ond nawr mae gen i radd, ac felly mae gen i ateb parod i unrhyw un sy’n dweud hynny yn y dyfodol,” meddai Glyn Wise, a fydd yn graddio’r wythnos hon.

Dywedodd y bachgen 23 oed mai ei ddyhead ers blynyddoedd oedd bod yn athro Cymraeg, ond fod hynny wedi gorfod aros ers iddo ddod yn enwog dros nos yn 2006.

“Dw i wedi bod eisiau bod yn athro Cymraeg erioed, ond doeddwn i ddim yn deall y byddai mynd ar Big Brother  yn golygu y byddwn i’n gweithio’n ddi-stop am y ddwy flynedd nesaf.”

Ers 2006, mae Glyn Wise wedi bod yn cyfrannu’n rheolaidd at raglenni teledu a radio, yn ogystal â gwneud gwaith cenhadu dros sefydliadau gan gynnwys Bwrdd yr Iaith a’r Gwasanaeth Iechyd.

Wrth astudio ym Mhrifysgol Caerdydd dros y tair blynedd ddiwethaf, mae wedi bod yn gyflwynydd cyson ar raglenni C2 gyda Magi Dodd Radio Cymru.