Yr Archdderwydd, Jim Parcnest
Fe fydd un newid yn seremonïau’r Eisteddfod Genedlaethol yn arwydd o gyfraniad y cyn Archdderwydd Geraint Bowen a fu farw tros y Sul.

Fe fydd y geiriau a sgrifennodd ar gyfer Cân y Coroni’n cael eu moderneiddio i gydnabod y ffaith bod menywod bellach yn ennill y wobr yn rheolaidd.

Yn ôl yr Archdderwydd Jim Parcnest, roedd Geraint Bowen yn hapus iawn gyda’r newid ac fe dalodd deyrnged gynnes i’w ragflaenydd.

“Rwy’n ei gofio fe’n Archdderwydd radical iawn – yn barod i ddweud ei farn,” meddai Jim Jones. “Roedd e’n gryf yn erbyn y bom niwclear ac yn breuddwydio am annibyniaeth i Gymru – gwerinwr a gweriniaethwr.”

Roedd hefyd yn dweud mai awdl fuddugol Geraint Bowen yn 1946 oedd y bwysica’ yn hanes cystadleuaeth y Gadair, er ei bod hefyd yn un o’r byrra’.

Roedd Awdl Foliant i’r Amaethwr yn enghraifft o’r “traddodiad canu mawl ar ei orau”, meddai.