Ysgol Glan Clwyd (Eirian Evans CCA 2.0)
Mae Ysgol Uwchradd Glan Clwyd ar gau heddiw ar ol i deithwyr feddianu rhan o’r caeau tros y Sul.

Mae’r penderfyniad yn sefyll er bod y teithwyr bellach wedi symud a gadael y safle tros nos.

Fe ddywedodd John Evans, pennaeth cynorthwyol Ysgol Uwchradd Glan Clwyd wrth Golwg360 eu bod wedi “gorfod cau’r ysgol”.

“Roedden nhw’n dal i fod yma amser cinio ddoe, roedd yn rhaid gwneud penderfyniad,” meddai cyn egluro fod y teithwyr wedi symud bellach.

Meddiannu cae

Dywedodd fod “rhwng 12 a 15 o garafanau a cheir wedi meddiannu’r cae rygbi uchaf – wrth gefn yr ysbyty”.

“Fydd dim ysgol i ddisgyblion heddiw,” meddai’r pennaeth cynorthwyol, er bod athrawon yn yr ysgol.

Fe fydd yr ysgol yn agor fel arfer i ddisgyblion yfory ar gyfer diwrnod ola’r tymor.