Logo S4C
Mae S4C wedi croesawu cefnogaeth y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig i annibyniaeth weithredol a golygyddol y Sianel o dan y trefniadau newydd o gydweithio gyda’r BBC.

“Mae S4C yn credu ei bod hi’n bwysig bod annibyniaeth weithredol a golygyddol y Sianel yn parhau fel y gall S4C wasanaethu cynulleidfaoedd Cymraeg yn y modd gorau posibl,” meddai llefarydd ar ran S4C, wedi i adroddiad y Pwyllgor Dethol gael ei gyhoeddi ddoe.

Mae S4C hefyd yn croesawu ymateb yr Adran dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon i’r Adroddiad, sy’n nodi, “Nid oes bwriad i gael gwared ar S4C fel corff statudol na’i uno gyda’r BBC. Fe fydd swyddogaeth bresennol S4C fel darparwr gwasanaeth cyhoeddus yn parhau, fel yr ymgorfforwyd mewn deddfwriaeth, a’r Ysgrifennydd Gwladol ac nid y BBC fydd yn gweithredu’r pwerau dros benodi’r Cadeirydd ac Awdurdod S4C.”

Fe wnaeth Adroddiad y Pwyllgor nifer o argymhellion eraill ynghylch rheolaeth ac atebolrwydd S4C, argymhellion y mae’r Sianel yn y broses o’u gweithredu fel rhan o adolygiad cynhwysfawr o’r corff.

Daw cefnogaeth y Pwyllgor ar ddiwedd wythnos gadarnhaol i S4C. Mae’n dilyn datganiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Y Gwir Anrhydeddus Jeremy Hunt AS, ddydd Llun y byddai’r Mesur Cyrff Cyhoeddus yn cael ei newid er mwyn sicrhau bod S4C yn derbyn digon o gyllideb i gyflawni ei rôl statudol fel darlledwr Cymraeg annibynnol.

Yn ystod Ail Ddarlleniad y Mesur Cyrff Cyhoeddus yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth, nododd Aelodau Seneddol o’r pedair prif blaid eu hymrwymiad i S4C annibynnol.