Mae swynwr Solfach yn dod nol o Ganada i Gaernarfon.
Heno fe fydd Lleuwen, Meic Stevens, Juliet Meyers, Trwbador, Baron Ramante ac Ifor ap Glyn yn agor Gŵyl Arall 2011 yn Neuadd y Farchnad yng Nghaernarfon, gyda Banda Bacana i’w clywed am ddim yn Nhafarn yr Anglesey.

Hefyd heno bydd y Sibrydion yn lansio albwm newydd ac yn canu gyda Mr Huw a Sensegur yng Nghlwb Canol Dre’.

“Er bod llai yn trefnu’r ŵyl eleni, mae mwy o ddigwyddiadau – mae wedi bod yn dipyn o her” meddai Eirian James, un o drefnwyr Gŵyl Arall yng Nghaernarfon wrth Golwg360.

Ymhlith yr enwau mawr yn perfformio eleni mae’r beirdd Carol Ann Duffy, Gillian Clarke, a’r awdur bwyd adnabyddus Elisabeth Luard.

Gellir gweld rhaglen lawn yr Ŵyl yma http://gwylarall.com/2011/GwylArall2011.pdf

 ‘Graddol a phwrpasol’

 “Ein gobaith yw datblygu’r ŵyl yn raddol a phwrpasol yn y blynyddoedd nesaf,” meddai Eirian James sy’n rhedeg siopau llyfrau Palas Print ym Mangor a Chaernarfon.

 “Rydan ni’n gobeithio apelio at bobl leol ac at ymwelwyr,” ychwanegodd cyn dweud bod sesiynau’n cael eu cynnal yn y Gymraeg a’r Saesneg gyda chyfieithydd ar y pryd mewn rhai sesiynau.

“Mae’n braf eleni bod y llefydd bwyta o gwmpas stryd y Plas a Thwll yn y Wal yn paratoi bwyd sydyn hefyd – i bobl fwyta rhwng sesiynau.”

 Digwyddiadau

Yn ystod y dydd yfory, bydd awduron, gweithdai celf, teithiau cerdded a dramâu byrion yn cael eu cynnal mewn amrywiol leoliadau o amgylch y dref.

Hefyd, bydd ffilmiau’n cael eu chwarae drwy’r penwythnos ym Mhorth Mawr, Caernarfon.

 Bydd Pod efo Sian James, Glyn Wise a DJ Nia Medi a Sonnyboyjones yn Neuadd y Farchnad / Market Hall yfory a  Bob Delyn Bach ac Alun Gaffey yn nhafarn yr Anglesey.

 Bydd Aron Elias a Jaci WIlliams yng Ngwesty’r Castell a DJ Nia Medi a John Gedru yng Nghlwb Nos Medi.

 Ddydd Sul bydd mwy o sgyrsiau efo awduron, beirdd cenedlaethol a dramâu ‘pot peint’.

 Nos Sul bydd ‘Cabaret Arall’ – y beirdd Arwel Pod, Karen Owen, Geraint Lovgreen, Paul Eds y Dewin, Viva Burlesque a rhagor o ddigwyddiadau yn Neuadd Y Farchnad / Market Hall gan gynnwys Maffia Mr Huws : yn yr Anglesey gyda Bryn Fôn, Mr Huw, Ifan Dafydd, Tom ap Dan  yng Nghlwb Canol Dre.